Celf a chyd-destun

Mi wnesh i ddarllen erthygl yn y Guardian ddydd Sad ar arddangosfa newydd o gelf futurist Marinetti gan feddwl, ewadd ma'r darluniau yna'n edrych yn wych. MAe'n nhw mor kinetic eu bod nhw bron a bod yn symud ac yn cymryd chi fewn i'r llun. Faswn i wrth y modd yn mynd i weld y rheina yn yr oriel yn Llundain. Gret.

Wedyn syndod i mi oedd darllen ar greg.org heddiw fod y lluniau bron oll yn luniau oedd yn canu clod i awyrennau bomio y Ffasgwyr Eidalaidd. Propaganda dan orchudd celf cyffrous.

Mae'n edrych fel fod Jonathon Jones, o'r Guardian wedi gweld trwy hyn oll, ac yn mynd yn bellach ac yn damio'r galeri am ddangos y ffasiwn bropaganda. Erthygl llawn poer a chas pur tuag at y "dyfodolyddion".

Cyd-destun eh? Pwysig yndydi.

Ella taw dyna sy'n bygio fi weithia mewn arddangosfeydd: dwi'n mwynhau celf, sydd ar yr olwg gyntaf yn rhywbeth reit ddi-nod, gymaint yn fwy pan mae na ryw fath o esboniad neu dehongliad iddo. Eto, mae na rai mathau o gelf sy'n swyno chi'n syth ac yr unig ddehongliad sydd dangen ydi'r dehongliad da chi di ffurfio, hyd yn oed os ydi hynny yn werthfawrogiad sydd yn un pur esthetig a lle nad oes dehongliad pellach iddo o gwbl.

(dwi dal yn lecio'r gair "dyfodolyddion" ddo..."Helo, Rhodri ydw i. Dwi'n ddyfodolydd ac yn byw ar Europa, lleuad oddi ar y blaned Iau."

Comments

cridlyn said…
Studies i rywfaint o hyn (cyd-destun moderniaeth ar gyfer y theatr) tra o'n i yn y brifysgol. Aeth y dyfodolyddion ddim i'r rhyfel, ac felly mae eu gwaith nhw'n waith sy'n clodfori diwydiant ac arddull aesthetig eu gwledydd ffasgaidd a'u harfau rhyfel, heb wir syniad o'r erchyllter y tu ol i'r pethau roedden nhw'n eu darlunio.

Dynion a aeth i'r rhyfel oedd y rheiny oedd yn gyfrifol am waith Dada a swrealaeth, ymgais ar ddelio â'r holl erchyllterau roedden nhw wedi'i wneud, ac yn ymadawiad pendant â'r gwaith 'ymylon caled' a grewyd gan y dyfodolyddion.

Felly, paid gwrando ar y dyfodolyddion, achos 'doedden nhw ddim yna, ddyn'.

Popular posts from this blog