Aloha Bobols Blogdiiedig

Cyfieithaid Cymraeg o'r Athronieth Aloha Hawaiiaidd

Y petha ma rywun yn ffendio ar y we...swnio'n synhwyrol iawn i fi. Byddwch yn glen i bobol eraill a fydd pawb yn glen nol ydi'r gist dwi'n meddwl. Rhagor o bostifirwydd allanol!

Mae un o'r cyfarwyddiadau'n od braidd: "Dewch o hyd i gorun eich pen a'ch bogail drwy ymwybyddiaeth a/neu gyffwrdd." Hmm, os ti ddim yn ymwybodol o dy fogel, ma na rwbath yn bod yn does - bronnau rhy fawr efallai?

Ta waeth am broblem y bogel, mae hi'n neges fach neis i feddwl amdani wrth fynd i gwely ar nos Sul dwi'n meddwl...nos da, a byddwch wych bob un!

Comments

Popular posts from this blog