Top Trymps Unbeniaid y Byd!

Be well ar ol sdwffio'ch hun nes eich bod yn chwysu cranberries a chronni digon o nwy naturiol i redeg y popty am flwyddyn arall na gem fach hwylus gyda'r teulu.

Pwy sydd a'r unben gorau?

"Be di angriness rating dy gerdyn di?"
"Idi Amin, 98%..."
"HAHA! Hitler sgen i, angriness rating 100% - tyrd a'r cerdyn na yma"

Jest printiwch y fersiynau pdf o'r cerdiau unben ac yna'u gludo i ddarn o gardfwrdd (dwi'n ffeinido fod family pack Frosties yn gneud y tro yn gret) yna'u torri allan yn ofalus gyda siswrn (gofynnwch i riant helpu chi gyda hyn) a ffwrdd a chi. Rhywbeth i hosan y mab efallai, neu bresant dolig perffaith i Taid. Hwyl i'r holl deulu, yn hel atgofion am yr erchyllderau a fu.

O'n i wastad isio "pocket dictator", BWM BWM!

Nadoli Llawen iawn i chi! (a diolch am y linc Ell, blydi gret!)

Comments

Anonymous said…
Diolch yn fawr, mae fy mhroblemau anrhegion nadolig wedi eu datrys. Mae gyda fi focs anferth o Frosties yn y ty ond mond hanner ffordd trwyddo ydw i :-(
Bydd rhaid ti alw draw am frecwast pob dydd tan dolig [ym, mae hynna'n swnio braidd yn suggestive - sori]
Nwdls said…
A wel, person anhysbys, fydd raid i ti jest bwyta dwbwl faint ti'n fwyta fel arfer neu fel arall dos i mewn i;r Spar/Threshers agosaf a thywallt nhw gyd ar hyd dy ben dan waeddi "cacen siocled jonsi"!

Problem solfd.
dros said…
d.i.o.l.ch. - o'n i wedi dechre diflasu ar 'marvel superheroes 2' a 'ultimate spyplanes' ta beth. *bril*

Popular posts from this blog