Ffilm: Vid (fatha un Flintstones, dwi'n siwr fod na Pterdactyl tu mewn 'na rwla)

Barton Fink (1991)
Cyf: Joel ac Ethan Coen

Ddim yn siwr beth i feddwl o hon. Roedd hi braidd yn araf, a braidd ddim yn dal fy sylw cymaint a mae'r brodyr fel arfer. Roedd y dylunio set yn hollol wych fel arfer, a pherfformiad Goodman yn hynod-fwystfilog o wallgo ond roedd Fink yn mynd ar fy nerfau. Doeddwn i ddim yn poeni ryw lawar am be oedd am ddigwydd iddo ac felly'n colli diddordeb yn y ffilm. Chydig o broblem.

Ddim yn cyrraedd eu safon arferol ond digon gwyliadwy serch hynny.

Sdwff Senses of Cinema am y Coens

Sgript yma

*Spoilery braidd* - Viewers guide i symbyliaeth y ffilm yma

Comments

Popular posts from this blog