Sal
Sal heddiw, y ngwddw i'n teimlo fel bod rhywun di bod yn sandio fo neithiwr a chythu'r llwch lawr i'n lyngs i. Mae fy system imiwn wedi cyrraedd pwynt lle ddudodd o NA dim rhagor! Ma hi di bod yn haf ddigon prysur efo ryw wyl neu gilydd yn digwydd bron bob penwythnos. Wedi cael cynnig i fynd i Benrhyn Gwyr penwythnos ma ond dwn im os ai. Wedi cael cynnig mynd i fffilmio ffilm guerilla 5 munud o gwmpas Caerdydd penwythnos ma fyd.

Sialens ydi hi lle da chi'n cael genre nos Wenar, gorfod sgriptio saethu a'i golygu erbyn nos Sul! Y 48 Hour Film Challenge ydi ei enw. Ddylsa fod yn laff, trio cyfrannu rhyw syniad neu ddwy a bod yn rhan o'r miri. Gai weld os ma'r pen ma di clirio gynta ddo.

Ffyc dwi'n swnio fatha typical dyn yn winjan am y peth lleia tydw, mond isio bach o sylw gan y rhyw orau ydw i de!

Comments

Popular posts from this blog