Rwtsh Ratsh Rwdins
Shwdi bobols, bora Sad a dwi'n trio osgoi gwylio'r gem rygbi ar y teli allan o ofn gweld ein tîm annwyl yn cael eu maeddu gan dîm mini-rygbi Lloegar. Cwilydd. Da ni'n shit ar chwara rygbi dyddia ma.

Noson ddigon difyr neithiwr, un o'r seshus random nos wenar na all ond ddod ar ôl 3 Hoegaarden ar stumog wag. Peilio beic mewn i bwt car nofelydd o fri a gadael y rycsac ynddo ar ôl mynd i Backstabbers a dim ond sylwi nad oedd gen i fy mag a'i gynnwys tua can llath o'r ty. Ac oedd, roedd fy ngoriad ty ynddo ac oedd, roedd perchenog y car wedi mynd i gysgu gan droi'r ffon ffwrdd. Wel, nol a fi i'r Backpackers a rwdlan efo boi o 'Merica oedd di disgyn mewn cariad efo Cymru ac am symud draw ma. Wedyn, chwara teg i'r annwyl Melsan, nath hi adael i fi grasho yn ei thy bach twt yng Nglanrafon.

Felly, felna ma hi heddiw, dwi'n benderfynol o wneud y penwythnos ma mor random a gallai, dwi off i gychwyn da. Dwi yn teimlo fel fod angan dianc o Kerdiff braidd ddo de. Ma hi'n braf a sna'm byd gwaeth na Sblot ar ddiwrnod braf. Dim ond achos ma'n atgoffa rywun fod na gymint o lefydd brafiach i fod. Ma'n oce fel arall de. Bring on y glaw! Reit digon o nonsens am rwan, ffwr a fi i dre i ffeindio pyb clen a pobol cleniach. Twdlw.

Comments

Popular posts from this blog