Myg

Gesh i'n ffycin mygio neithiwr yn Adamsdown gan ryw gont bach slei diwerth, ffycin slyg, amoeba, bashi byswc. Dwyn fy ffon a fy walet nath o, ond doedd na'm ceiniog yn y walet ag oedd y ffon yn ddigon rhad hefyd ond wedi deud hynny oedd o'n ddigwyddiad digon dychrynllyd a deud y gwir. O'n i'm yn gwbod be oedd yn mynd mlaen am tua awr oherwydd yr adrenalin oedd yn pwmpio drwydda i.

O'n i'n meddwl y dylswn i fod wedi rhoi dwrn i'r boi, ond ffwcio fo, do'n i'm yn mynd i achosi niwed i fi fy hun dros betha gwirion fel'na. Ma di rhoi dipyn o noc i'n hyder i'n cerdded drwy Sblot serch hynny a dyna dwi di gwylltio efo. Basdad, ffacin is na llysywen llysnafeddog yn yr afon. Gobeithio dagith o ar ei swpar heno.

Comments

Popular posts from this blog