Ffilm (eto): Interactive Cinema

Esh i lawr i weld shoot ffilm fer newydd sy'n cael ei wneud drwy arian y Loteri y diwrnod o'r blaen. 'Textual @ttraction' yw ei deitl. Bydd y ffilm yn cynnwys rhannau sy'n anfon negeseuon i'ch ffon ar ffurf sms. Nath o gael i fi feddwl am sinema interactif go iawn. A oes modd cael gwir elfen o ymateb a newid naratif gan y ffilm yr ydych yn gwylio yn pasif fel arfer. Dwi dal ddim yn argyhoeddiedig y gall weithio ond dwi'n credu fod angen arbrofi efo technoleg newydd a gweld ble'r aiff pethau.

Mae'r medium y sinema yn gyfyngedig braidd ar gyfer bod yn rhyngweithiol am ei fod yn ei elfen yn 'mass' medium, sydd yn ei gwneud hi'n annodd i bederfyniad un person effeithio ar bleser gwylio pawb arall. Fasa na chaos yn y sinema efo pawb yn dewis sdwff gwahanol i ddigwydd ar y sgrin fawr. Dyna pam y daw ar y pc yn gyntaf, mae'n digwydd yn barod fel systemau AI ar gemau cyfrifiadur.

Welai ddim sut gall o ddod i'r sinema deud gwir, ond dwi'n edrych mlaen am y diwrnod pan ddudith rywun wrtha fi fel arall.

Gweler y gwefan Keyframe am drafodaethau a thraethodau ar bwnc sinema digidol a rhyngweithiol (chydig yn wanky a gor-intellectual ond werth yr ymgais i balu drwy'r cach am bethau i bryfocio'r meddwl).

Comments

Popular posts from this blog