Dal yn ffecin Sal
Deffro heddiw am 3 y pnawn ar ol cael 15 awr o gwsg. Ffycin hel! Nes i mond deffro am 8:30 i ffonio mewn i gwaith wedyn cysgu stret drwodd! Dal i deimlo fel cachu mot efo phen fel balwn a lyngs fel dwy fegin tan glo. Felly dwi di neud ffac ol heddiw blaw am fynd lawr i heol Splott i brynu llysiau a sbeisys i neud clamp o gyri Dhal heno i blastio'r diawl ma allan o'n sustam i. Methu bod yn ffwcd i gychwyn coginio eto ddo.

Beth bynnag, dwi di cychwyn edefyn ar Faes-e am hoff Gyfarwyddwyr a wedi mynd trwy restr ar wefan Greatest Films sylwi nad oes cymaint a hynny o gyfarwyddwyr benywaidd enwog dathliedig(celebrated). Ma na amball un sydd ar i fyny fel Samira Makmalbaf o Iran sydd wedi stynio pawb efo'i ffilms aeddfed a di mond yn 20. Mae eichwaer 16 rwan wedi neud ffilm sydd wedi ennill gwobrau!

I fynd nol at y pwynt, yr unig gyfarwyddwr Hollywood ellwn i feddwl amdan oedd Kathryn Bigelow, nath gyfarwyddo Point Break, y ffilm syrffio ddigon derbyniol na o'r 90'au. Tra'n edrych ar ei phroffeil sylwais i bo hi du cyfarwyddo un o'r ffilm sci-fi mwya under-rated erioed. Ffilm o'r enw Strange Days (1995). Mae o amdan bobol sy'n gallu recordio teimladau pobol tra mae nhw'n gneud rwbath a chwara fo nol drwy eu pennau. Ma hyn yn hollol anghryfeithlon a ma pobol yn dechra recordio temladau pan maent yn llad a threisio pobol i werthu ar y farchnad ddu. Mae'r stori oll yn digwydd ymysg dathliadau troad y Fileniwm(pam roddais i 'f' fawr? fanna?) ac mae'n troi mewn i ras yn erbyn amser ei hun. Gweddill braidd yn sketchy rili, un arall ar y rhestr siopa.

Comments

Popular posts from this blog