Speccy

Dwi newydd wario pnawn cyfa yn islwytho a chwara gemau spectrum. On toedden nhw'n ddyddie da. Hangofyr wedi dod a nostalja trip mlaen, aaah. Ma'n gneud i fi isio digio'r peiriant llwyd allan a thrio dysgu BASIC...wel ella nai jest sticio at chwara'r gemau.

Darllen Your Sinclair a trio llwytho'r tapiau na am ddim ar y cyfars.

Top Trumps gemau Spectrum fan hyn hefyd.

"Head over heels" dwi di bod yn chwara gan fwy - clasur, efo graffics gwych i feddwl pwer y peiriant.

Comments

Popular posts from this blog