Sinema - Dark Water

Ffilm arall cachu pants gan Hideo Nakata - mae'r Japs yn wir feistri ar y genre yma ar y foment. Nes i neidio tua troedfedd oddi ar fy set ar un adeg a chael ffit o gigls am fod mor blydi gwirion! Oedd o mor spwci, a'r defnydd o gerddoriaeth a'r design sain yn wych. Oed dna un adeg lle roedd Nakata di recordio deialog yr actorion mewn stiwdio a doedd na ddim swn ambient y yr olygfa o gwbl. Oedd o'n rhoi ryw deimlad mor anghyfforddus fod rwbath drwg am ddigwydd.

Mae o hefyd yn gadael lot o le o amgylch yr actorion ar y sgrin fel eich bod chi'n edrych o gwmpas i weld os ma rwbath am fynd pipo rownd y gornal. Ma'n rhoi tingyls i fi rwan. Ewch i weld bwy bynnag sy'n darllan hwn. Mae o'n wych pych.

Comments

Popular posts from this blog