Rendezvous

Tra'n fflicio drwy'r peth wmbrath o sianeli iwsles sy ganddon ni ar y lloeren, mi gyrhaeddis i ar Top Gear efo'r cont dan din yna Jeremy Clarkson. Dwi ddim fel arfar yn cario mlaen i wylio fo am y rheswm a) Sgen i'm car b) Sgen i'm llawar o ddiddordab mewn ceir ac c) am bo Clarkson cont dan din arno fo....OND oedd o'n deud fod na clip o ffilm tanddaearol am ddod mlaen tuag at ddiwedd y rhaglen. Felly, gyda'n niddordeb i wedi ei gynna dyma fi'n aros...ac o roedd o'n werth pob eiliad. Ffilm 9 munud o gar yn mynd ffwl pelt drwy strydoedd Paris y 70'au ben bora. Roedd o'n rysh ag yn brydferth ag yn, jest o mor Ffrengig. Pwy fasa'n meddwl fasa'r twat Tori na'n gallu dod fyny efo rwbath mor sublime ar ei raglen gachlyd o. Ond mi wnath, a wenis i fel giat drwy'r nos. Dwisio gweld o mewn sinema rwan.

Beth bynnag Rendezvous di enw fo, ma na glip fanhyn ac erthygl yn yr Independent fanhyn

£14.99 bach yn ddrud am 9 munud ond ella fod o'n werth o...

Comments

Popular posts from this blog