Cader Idris

Nol yn Nolgellau y penwythnos hwn. Bum i fyny'r Gader am y tro cynta ers tua 3-4 mlynedd. Diwrnod gweddol glir, dim gormod o haze a'r golygfeydd lawr Aber y Fawddach a lawr cwm Tal Y Llyn tuag at Dywyn a Chraig y Deryn yn wych.

I fyny'r llwybr ceffyl aethon ni'n tri gan gyrradd y pinacl fewn 1 awr a thri chwarter. Rhannu brechadan o Bopty'r Dref yno gyda dafad ddof, oedd y diawl yn gwthio ei drwyn mewn i focs brechdan pawb. Ar ol ymio ag aio, a chyda cryn berswad gennaf i, aethon ni lawr gan ddilyn y llwybr llwynog ne'r foxes path enwog. Oedd o'n ol reit i gychwyn ond iesu ath o'n serth a scri yn rolio dan ein traed. Ma angen cael bach o adrenalin yn mynd ar adega fel hyn does! Molchi gwynab yn Llyn y Gader a lawr at Westy Llyn Gwernan am beint haeddiedig. Ma'n od ffor ma na rywun gwahanol yn rhedag y lle na bob tro dwi'n mynd yno a ma nhw gyd yn gwerthu peint sal! A wel ma'n rhan o apel y lle rywsut.

Diwrnod arall yn Nolgella sy'n gneud i fi ysu i symud nol yno a chael y cyfle i wneud y pethau syml fatha camu allan o'r drws cefn a cherdded yn syth i lefydd o brydferthwch syfrdanol. Mae na gymaint o hanes yr ardal nad ydw i'n ei wybod a ma'r lle yn amlwg yn gymaint o ran ohonaf fi dwi ddim yn siwr pa mor hir allai aros yng Nghaerdydd. Dwi angen bo yn rwla sydd efo enaid a lle gallai deimlo'r gymuned yno a bod yn rhan ohoni, cyfrannu a gneud y mywyd yn llawnach.
Neu dwi jest yn hiraethu am rwbath na allai gael a diniweidrwydd coll fy mhlentyndod?

Comments

Popular posts from this blog