B-Mwfis

Met wedi anfon linc i mi o wefan y Joe Bob Report sydd yn edrach fel ei fod dal yn mynd, plaen o ran graffeg ond popeth da chi isio os am adolygiadau clasuron y drive-in (ddim fod na ffasiwn beth i gal yng Nghymru gwaetha'r modd, be sy wedi digwydd i sinema trashy dwch?).

Ma pob sinema'n dangos be ma'r prif distributors yn prynu a dim arall, does dim math o sgrin drwy Gymru lle gellir dangos ffilmiau 'B'. Ma na lefydd i shorts fatha POV gan Those People yng Nghaerdydd (sydd yn wych! Cerwch lawr na dydd Mercher ola'r mis, peint, ffag, sgwrs dda a ffilm) ond dim i features. Twll yn y farchnad neu ydi'r gynulleidfa jest ddim yna ddim mwy. Ella fod pobol wedi arfar gormod efo ffilmiau safon chydig is na'r normal.

Comments

Popular posts from this blog