Can mil miliwn o fashi byswcs, dwi di llwyddo gneud un o'r rhain. Faint mor hir neith yr ymdrech yma am rwdlan cyhoeddus barhau sy'n fater arall. Cefais lymad rol gwaith heddiw a farciodd cychwyn y llwybr hyfryd hwnnw tuag at yr haf. Roedd hi wedi bod yn fwlsyn o ddiwrnod ar ol penwythnos o dramwyo llwybrau dirifedi ym mryniau Meirionydd ac roedd y dafarn felen yn fy ngalw fel seiren am 'seize'. Mmmm smooth, dense beer slightly sparkling, with fine, sharp bubbles Warming alcohol. Neu dyna be ma nhw'n deud. Odd gennai ffwc o sychad a nes i lowcio'r lot cyn blasu'r hint o banana.


Dim ffilms eto'r wythnos hon, mae'r boicot o nwyddau UDA yn mynd i orfod cynnwys ffilmiau Americanaidd hefyd felly dim Adaptation i fi am y dyfodol agos. Damia. A wel fydd raid i'r llyfrgell fy ngadw i fynd, rations o Kieslowski a von Trier i fi (YEE HA!). Ma'n rhaid i fi neud rhyw fath o safiad yn erbyn y drefn newydd yn y byd o unilateral action yn erbyn gwledydd sovereign. Be fydd yn digwydd nesaf, fydd ffarm Gwanas yn cael ymosod a chymryd drosodd tir John bach Tyn-Twll-y-Mochyn-Winllyd heb i Coffi Acacan, llywydd Undeb Amaethwyr Meirion gael cyfle i drio creu heddwch a cael gwarad o arfau cemegol (dip defad) John er fod gan Gwanas dunelli o ddip wedi ei storio yn y cwt. Yr unig reswm ma nhw wedi ymosod ydi i stopio John rhag gwasgaru'r si fod teulu Gwanas yn methu canu. Berig na dyna fydd hi, pawb yn dilyn precedent y president - mait us rait - cyfraith y jwngal.


Son am jwngal, mewn rhyw gyswllt dra-amheus, mae ATP yn dod fyny mewn wythnos a hannar, amsar mynd lawr i dwll tin byd Bili Bytlin (wel Pontins ackchully) yn Nwyrain Sussex a dawnsio fel dyn o'i go am dridia i Aphex Twin a'i deip. Dwi'm yn ama fydd na sawl achlysur lle bydd y dorf yn disgyn i'r traddodiad addoli electronig "o-bach barf" wedyn lawnsio i ymaflyd codwm fel El-Bandito ar 10 meicrodot i Come To Daddy. Fydd Public Enemy hefyd yn ymddangos fel cyndeidiau i'r crwts (gwyn) fydd yno, tasa nhw ond wedi meddwl mlaen yn niwedd yr 80'au eu bod nhw am fod yn perfformio o flaen criw o nerds gwyn efo r'un fait o awch 'ymladd y pwer' ag sy ganddyn nhw i sginio fyny'r spliff nesa. Be bynnag, mae Autechre yn mynd i rocio'r lle o'r llwyfan i'r llawr i'r nenfwd a nol lawr eto. Dowch a'r cracl, bzzzt, bleep bloop, blip-ipip-biiiiiiiip i fi dwi isio teimlo'r tonnau 'sine' yn pylsio trwy fy ymennydd a'i droi i jeli static. Adroddiad llawn i ddod. Reit, rwbath blaw am y sgrin ma'n galw, panad ella?

Comments

Popular posts from this blog