Pwy Sgen Ffon-Gamera newydd? La-la-la la la...Dym di dym...Fi! Camera 1.3 MegaPixel (gyda chlawr lens ac aperture priority - pwysig 'chwel), chwaraeydd Mp3's, fideo, radio FM - ffacin'el dwi'n edrych mlaen i ddefnyddio fo. Mae 'na bleser mawr iawn o gael gajets newydd yndoes, ne jest fi dio? Wele yr holl spec ffantastwych ar gyfer y Sony Ericsson S700i fan hyn . Ma'r holl beth o agor y bocs a darllen y cyfarwyddiadau yn fanwl fel bo fi'n gwybod sut ma pob darn yn gweithio ru'n gymaint o hwyl a'i ddefnyddio 'fyd. Argol dwi'n foi trist. Trist ond oblifiys, canys rwyf llon fy myd. Aaa. Dyma ambell lun o'r teclyn tlws:
Comments
ell
Swn i ddim yn chwil fasa hynna ddim mor ddoniol...
Sori Nwdls :D
"be di hoff website huw chiswell?"
"e-baaaaay!"
hehe
Be ti'n galw dyn drwg ar dop y grisiau?
Osama Ben Landing