Dwi'n Caru Ffilm
Newydd seinio fyny i wasanaeth DVD drwy'r post LOVEFiLM, ar ol i mi ffeindio cynnig gwych drwy fy aelodaeth o Shooting People oedd yn gadael i fi gael treial am ddim am 6 wythnos a wedyn cael £1 oddi ar y gost fisol o hynny 'mlaen. Bargian!
Gobeithio fydd eu gwasanaeth nhw'n well na Movietrack, oedd yn waeth na chachu mochyn mewn tepot.
Mae na dri DVD ar y ffordd:
The Castle of Dr Caglisotro - un o ffilmiau cynnar (1980) yr anfarwol Hayao Myiazaki, creawdwr Spirited Away
Rebecca - gan Hitch - dwi dal yn ceisio gweld ei holl ffilmiau
a Sunset Boulevard - clasur arall dwi'n edrych mlaen amdani
Penwsnos braf o ffilmiau felly...aaaa, nefoedd....

Comments