Posts

Showing posts from March, 2004
Blogiau Cymraeg Gweflog Llediaith Dwi'm yn credu mod i wedi son am hon - wel dyma hi. Gweflog maeswr arall, Huw Waters. Ar y rhestr dolenni a hi.
Metacritic Ffilm i'r DU whichfilm.co.uk Gwefan newydd sy'n cymharu adolygiadau o bapurau newydd, cylchgronnau a gwefannau ffilm er mwyn i chi allu gweld sut mae'r darlun mawr yn edrych. Dydi'r system ddim mor gywir a manwl ag un Metacritic ond hei mae'n mynd i wneud mwy o synnwyr i ni na chymharu adolygiadau y Cincinatti Post a phethach felly...
Ffônlônluniau Moblog Nwdls Dwi wedi cael upgrade diweddar i'r ffôn felly benderfynais i gael un efo camera, ac ar ol gweld blog ffôn ar joiito ac ar un BartiDdu , wedi penderfynu gwneud un o'r rheiny fy hun hefyd. Fatha rhyw gofnod o feddylia a digwyddiadau yn weledol. Rhyw ecsperiment bach ynte. Felly o nawr ymlaen bydd lluniau bach yn hedfan drwy'r bydysawd a glanio ar dudalen fy lônflog yn fyw bod yn hyn a hyn. Ffwc a wyr faint fydd hyn yn gostio i fi ond dyna ni, gai weld ar y bil cynta de! Biti nad oes gen i safon gwell o luniau ar fy ffôn ond dyne ni, allwch chi ddim cael popeth na.
Gemau: (Ydw, dwi di bod yn sal off gwaith heddiw: dudwch aaaa) Dolffin Spastic ar Asid!!! Wooo haaaa! Wiwar Spastic ar Speed!!! Woo hooo!
Ffilm: DVD Three Kings (1999) Cyf: David O Russell Ddaru fi brynu hon yn ddiweddar ar DVD gan nad o'n i'n ei chofio'n iawn. Ma hi'n un dda - esiampl dda o sut gall ffilm fwy commercial fod yn un sy'n gofyn cwesitynau hefyd.
Gemau Bach Ar y We Crimson Room gan Toshimitsu Takagi Mae hwn yn puzzle bach hyfryd...
Mwy o grasu Bush Bushwacked! Dwi'n gwybod fod hyn yn dechrau mynd yn ddiflas rwan a'i fod yn distracting braidd o'r gwir broblemau efo llywodraeth yr UDA, ond ma hon yn un doniol...
Gwersylla yn y gwyllt (Llun: Llanfachreth) Wedi penderfynu mynd i wersylla ar ein ffarm uwch Llanfachreth (ar ochor dde y llun uwch y coed trwchus). Bydd criw cyfun y WWFMDPC a Chymdeithas y Lloerigyddion yn mynd ar wibdaith yno ym mis Mehefin. Ddylai fod yn laff trochi yn yr olchfa, cerdded at Bistyll y Cain, sgramblo fyny'r Rhobell Fawr ag yfed rownd y tan yn y nos nes disgyn i gysgu mewn llwyth o ddalan poethion. Woo ha! Gobeithio nawn ni neud digon o swn i ddychryn y bytheids o dwristiaidartistiad dyfrliw sy'n aros yng Nghors Y Garnedd gerllaw. Ma'r ha'n siapio fyny'n reit dda... (gyda llaw, heb flogio ers wythnos gan fy mod wedi cymryd gwylia yn y Gog a roedd dianc o gyfrifiaduron yn rhan o'r gwylia...mi weithiodd, ond dydi o ddim yn edrych fel bod neb arall wedi bod yn blogio chwaith!)
Hank Halio *snigger*!
Ffilmiau i ddod yn UGC Caerdydd Renault French Film Season Byddant yn dod i Gaerdydd o'r 26ain ymlaen. Cyfle gwych i weld ffilmiau Ffrengig na fydd yn dod i'r sinema yma am fisoedd eto, ac efallai ddim o gwbl (ac hefyd i weld Emmanuelle Beart yn stripio yn Nathalie *rwbio cluniau* hehehe).
Cyfieithu Gwefannau Cymraeg Pam na all rywun ddyfeisio Gwasanaeth Cyfieithu Babel Fish sy'n cyfieithu'r Gymraeg? Mae ganddon ni wiriwyr sillafu yn "Cysill" felly mae'n rhaid fod na ryw algorithm fan'na sy'n gallu deall brawddegau a gramadeg. Ella na fasan nhw eisiau ei roi i AltaVista ond fuasai hi'n braf i bobol allu darllen y sdwff sydd ar wefannau uniaith Gymraeg. Dim ond pendroni...
Tranc y siopau bach a thewdra'r siopau mawr George Monbiot - The fruits of poverty Erthygl yn y guardian ddoe. Mae'n trafod presenoldeb a phwer gorthrymol yr archfarchnadoedd heddiw a'r ffordd mae hyd yn oed siopau cirnle nawr yn cael eu cywasgu mor dynn gan gystadleuaeth fod peryg iddynt ddiflannu. Mae'n pitio diflaniad mathau gwahanol o 'falau o siopau Prydain ond y gwir yw taw'r rhai sy'n edrych am bethau 'gwell' (yn rhesymol rhad) ydi'r rhai sy'n mynd i'r archafarchnadoedd. Mae'n gywilydd nad ydi cynhyrchwyr Cymru a Phrydain yn gallu cael pris call ar eu cynnyrch, allan nhw ddim cystadlu ar y scale ryngwladol economaidd frwnt yma. Dwi wedi gweld 'first hand' y dull yma o ddefnyddio llafur rhad tra'mn gweithio yn Awstralia. Gwariais 6 wythnos yn gweithio ar ffermydd tomatos (ymysg ffrwythau eraill...) a gweld y pobol Indonesiaidd yn gweithio yno ar wahan i;r backpackers (a oedd ma'n siwr yn ffrynt i'...
Y Budget The Gord of the Rings Nath o neud i fi chwerthin eniwe.
Ffilm: Sinema Wu jian dao (2002) / Infernal Affairs Cyf: Wai Keung Lau ac Siu Fai Mak Heb weld ffilm action Hong Kong ers coleg, a naeth hon gadw'r fflam yna o frwdfrydedd amdanynt ynghyn tan y nesaf. Thriller cops a triads ydi o, efo dau foi yn deep undercover: un yn y triads a'r llall yn yr heddlu wedi'w blannu gan y triads. Felly mae'r ddau'n ceisio ffeindio allan pwy yw pwy a'r pennaethiaid y cops a'r triads yn ceisio sdopio'r ddau dwrch rhag sbwylio operations eu gilydd. Felly, digon o le am ddrama a thensiwn, ie wir. Mae na sawl darn od yno lle mae'n mynd yn felodramatic i gyd ond mae hyn jest yn ychwanegu cymeriad i'r ffilm. Me Brad Pitt am ariannu a serennu mewn remake Hollywood yn ol bob son. Gwylio rywfaint o Boiling Point Wesly Snipes nos Lun ond oedd o'n ddiflas braidd.
Trafod cyfryngau Cymru Cynhadledd Cyfrwng 2004 Hefyd dangos Zulu a chyfweliad a Ken Russell. Ddylsa fod yn ddiddorol a siawns i gwrdd a rhagor o Gogs sy'n ymwneud a phethach fyny fan'na.
Enfys Enfys, Paid gneud fi'n genfigennus... islwytha Hei Vidal Ma'n siwr fydd pob blog yn blogio hyn ond dwi'n credu dylai pob darllenwr y blog hwn (ie y tri ohonoch), gael profi'r Al-bym hon.
Blog Cymreig Artificial Stupidity: The film (industry) O Aber fel y gwelai.
Cyfweliad a'r anghyfweladwy Walker Article on Malick o wefan am y ffilm (gyda dyfyniadau ac ati).
DVD's Nos Sul... Zoolander (2001) Cyf: Ben Stiller Badlands (1973) Cyf: Terrence Malick Best In Show (2000) Cyf: Chirstopher Guest Zoolander - fflyff, dau joc wnaeth wneud i fi chwerthin yn uchel, o'n i'n gallu gneud sawl peth arall tra'n gwylio'r ffilm... Badlands - O am ffilm. O am actorion. O am fiwsig. O am ffotograffiaeth. Barddoniaeth chwerwfelys ar seliwloid. Mae'n debyg ei fod yn fy top ten (ella top ffeif). Mae troslais Sissy Spacek yn swynol a melfedaidd fel haul y bore ar dy wyneb. Mmmm. Best In Shoe - Chwerthin llond y mol. Gan greawdwr Spinal Tap - ffug-ddogfen arall sy'n spot on, ond y tro ma am sioe gwn ac y perchnogion a hyfforddwyr obsesif a dychrynllyd! Gwychgachboethbeth!
Deall Gwe-Gymunedau Mindjack - 12 Variables for Understanding Online Communites Gneud be ma'n deud ar y can. Dio'm yn deud pam dwi'n gwario cymint o amser ar y basdad petha ddo... Mae Mindjack yn blog/wefan am gyfryngau digidol gyda llaw (yn ei dro wedi deillio o wefan GreenCine a flogiwyd gan Nic yn Morfablog ...whew!).
Dwwwwwwwr ar ddydd Sul Tro Rhaeadrau Ystradfellte Newydd fod am dro rown raedarau Sgwn Clun Gwyn, Sgwd Clun Gwyn Isaf a Sgwd Yr Eira ger Ystradfellte. Roedd hi wedi bwridau mynd i fyny Pen Y fan ond roedd y niwl yn drwch a'r llwybr fyny wedi ei orchuddio ag afon go hegar o'r dwr o ben y mynydd. Penderfynu felly y buasai'r rhaeadrau'n edrych yn ddramatig a mynd lawr yno. Roeddan nhw'n ffantastic. Swn a phwer y dwr yn rhoi fi mewn trance. Nacyrd rwan ond nacyrd da.
Neds yn Glasgow United States Of Glasgow Mae'r wefan chavscum wedi arwain at ambell i beth ffycin ffyni. Checkiwch y galeri Neds a Sengas hefyd. Mae'r sylwadau ar bob llun yn classic.
Ffilm: DVD Gwefan Gartref Dal Yma Nawr Cyf: Marc Evans (yn ogystal a: Gruff Davies, Rhodri Glyn Davies, Dave Evans, Chris Forster, Ieuan Morris, Ed Talfan, Ed Thomas, Bedwyr Williams) Gwych gwych gwych, ysblennydd, go drapiapam da ni'm yn gallu gwneud ffilmiau Cymraeg efo'r hyder yma. Roedd bron popeth yn iawn (heblaw am Ioan Gruffydd a Mathew Rhys ar draeth Venice...son am raffu ffrindia i wneud rywbeth jest am bo nhw'n ffrinidau. tsk), roeddwn i bron yn y nagrau ar adegau, chwerthin hefyd, roedd y delweddau a'r cyfarwyddo'n gelfydd a mor ddiddorol. Buasai rhai darnau wedi bod yn ddigon heb yr actor yn adrodd o flaen y camera, oherwydd cryfder y lluniau. Da iawn bobol am wneud ffilm sy'n tywynnu hyder iaith a'i hanes, er fallai nad yw hi'n sefyllfa mor hyderus go iawn, mae'n braf cael ffilm bositif. Pelydryn o heulwen barddonol drwy gymyla du brwydr yr iaith. Ma rhaid i fi gael copi o hon i'w chadw, dim ond benthyg o gwaith wnes i, ...
Ffilm: Sinema 21 Grams (2003) Cyf: Alejandro González Iñárritu Ar ol y ffys i gyd am hon, roeddwn yn teimlo bach yn siomedig. Roedd yr actio yn sbot on (yn arbennig del Toro - mae o wir yn un o'r actorio mwya carismatig yn sinema ar foment. Mae o jest yn neidio allan atoch chi), ond roedd y golygu neidio ar draws amser a golygfeydd yn teimlo'n ddibwynt braidd. Mae ffilmiau fel Memento a Pulp Fiction yn ei ddefnyddio ar gyfer ychwanegu i'r stori neu ddatblygiad y cymeriadau ond dyw hon ddim fel ei bod yn llwyddo i wneud hynny. Mae hi'n bydew du emosiynol o ffilm sy'n eich gadael yn drwmgalon a thrwmlygeidiog braidd. Dwi'n meddwl mod i wedi gallu barnu hon yn deg ar ol gweld ffilm drom arall y noson gynt. O'n i jest isio dianc o'r byd llwm o mlaen i a mynd i weld Torque llygaid-felys.
Ffilm: Sinema Dogville (2003) Cyf: Lars von Trier Weithiau, jest weithiau, ma ffilm yn taro chi ar eich tin ac yn eich gadael yn fud wedi i chi adael y sgrin arian. Dyna ddigwyddodd i fi efo City of God a dyna ddigwyddodd i fi efo Dogville nos Lun. Doedd y dair awr ddim yn broblem a teimlodd fel hanner hynny. Mae hyn i gyd yn dod o safon yr actio, oedd yn gorfod bod yn sbot on gan nad oes bron dim set i'w gael yno ond llinellau gwyn yn dangos ffiniau'r tai a'r coed gwsberis. Roedd y sdori'n un hynod afaelgar gyda thensiwn anioddefol weithiau, y diawl sadistaidd von Trier yn crechwenu fel pypedwr cas gyda'i marionettes hyblyg. Dyw hi ddim n berffaith ond dwi'n credu fod hyn yn adlewyrchiad o von Trier ei hun. Mae fatha ei fod yn cwffio rhwng dau ideoleg yn y ffilm ac yn actio'r ddadl allan fel drama, mae'r ddadl ei hun yn dod yn rhy amwg yn y ffilm erbyn y diwedd ond nid yn rhy amlwg o ran beth cy'n cael ei ddweud, beth yw'r neges...
Ffilm: Romzomcom Adolygiad ScreenDaily.como Shaun Of The Dead Brilliant, edrych mlaen LOT!
Brenhines y Chafs a'u iaith BBC Arlein | Newyddion | Angladd 'brenhines' Romani Dwi'n meddwl fod y ddynes yma'n nain, neu'n hen fodryb i sawl person yn Nolgellau. Bu yna ryw bum teulu Romani yn nolgellau ar un adeg ond dim ond dau sydd ar ol rwan a'r Parkes ydi un ohonynt. O'r Roamni mae'r enw 'Chaf' neu 'chav' sydd dal mewn defnydd cyson yn nhafarndai Dolgellau. "Iawn chav?' ydi cyfarchiad llawer o bobol dre. Yn ol be glywais dros y penwythnos 'krushti chav' (sillafu yn anghywir dwi'n meddwl) oedd y cyfarchaid yn arfer bod. Swnio fel 'cushty' sy'n cael ei ddefnyddio gan bobol Essex a Llundain. Sgwn i os mae cysylltiad? Mae'r London Slang Dictionary yn deud fod 'cushty' yn dod o'r 'khush' sef Hindwstani am 'neis' on mae'r Britionary yn deud ei fod yn dod o'r dywediad Romani 'Kushty Bok' sef 'lwc dda' Erthygl Times am sut mae ch...
Ffilm: Rhifyn Newydd o Kinoeye Kinoeye | Vol 4.01, 8 Mar 2004 | Michael Haneke Biti bo fi rioed di gweld unrhyw fffilm Michael Hanneke...
Gneud Ffilmia IFP.org - Filmmaker's Library Lot o wybodaeth syml a hawdd i'w ddeall i'r gwneuthurwr ffilm digidol dim-budget.
Moblog Cymraeg Marathon Man Blog lluniau yn uniongyrchol o ffon lon y Marathon Man.
Eidion Danheddog Lluniau Beef Teeth Gesiwch p'run dwi.
Banio Ffags Ban the Ban Dwi rili ddim yn deall pam fod pobool yn teimlo'r angen i fanio smygu mewn pob lle cyhoeddus. Mae o'n persecution llwyr. Mae'r dyfyniad yma o'r wefan uchod yn crynhoi be dwi'n feddwl: "The more I think about a smoking ban, the less I understand why it’s so important to ban supporters that every bar and restaurant become smokefree. If there are five bars on a block and 20% of people smoke, why is it so unacceptable to these people to let even one of those bars allow smoking?" Trafodaeth maes-e
Ffotografiaeth Will o the wisp Gwefan gyda llawer o luniau o Japan a wedi'w manipiwleiddio'n ddigidol.
Ffilm: Vid (fatha un Flintstones, dwi'n siwr fod na Pterdactyl tu mewn 'na rwla) Barton Fink (1991) Cyf: Joel ac Ethan Coen Ddim yn siwr beth i feddwl o hon. Roedd hi braidd yn araf, a braidd ddim yn dal fy sylw cymaint a mae'r brodyr fel arfer. Roedd y dylunio set yn hollol wych fel arfer, a pherfformiad Goodman yn hynod-fwystfilog o wallgo ond roedd Fink yn mynd ar fy nerfau. Doeddwn i ddim yn poeni ryw lawar am be oedd am ddigwydd iddo ac felly'n colli diddordeb yn y ffilm. Chydig o broblem. Ddim yn cyrraedd eu safon arferol ond digon gwyliadwy serch hynny. Sdwff Senses of Cinema am y Coens Sgript yma *Spoilery braidd* - Viewers guide i symbyliaeth y ffilm yma
Ffilm: Cyfieithiad Gwael? Hit film gets lost in racism row Mwy o ffys am stereotypes Lost In Translation, eto, mae Asian Mediawatch yn mynd braidd yn rhy bell. Ond gallai ddeall eu safbwynt.
Ffilm: Kill Bill/Arswyd Jap Aaaaa Lady Snowblood! Fan hyn ma cymeriad Lucy Liu o Kill bill wedi dod...
Ffilm:Fideo Limey, The (1999) Cyf: Steven Soderbergh Ffilm oedd yn gneud i fi deimlo'n rhwystredig gan y gallai fod wedi bod yn ffilm wych am ddial a hen gangsters, ond roess acen a deialog cockney Terence Stamp yn warthus. Roedd rhaid iddo esbonio be oedd pob rhyming slang yn ei feddwl: "Yeah ah wuz banged up in va nick cuz me china double crossed me ...china plate - mate"....AAAAARGH! Mae'r golygu yn wych a'r actwyr eraill yn gret (mae Barry Newman, sef Petrocelli ynddo fo!! Luiz Guzman y character actor gret na, yn solid hefyd).Ond allwch chi ddim dod dros y dumbing down a stereoteipio yn arbennig ar gyfer cynulleidfa Americanaidd. Basdad.
Ffilm: Gwneud nhw! Online Guerilla Film School Lot o tips ar sut i wneud eich ffilm cynta chi a rbron i ddim arian...