One Of The Hollywood Ten

One of the Hollywood Ten (2000)

Ffilm y Cymro Karl Francis am Herbert Biberman, cyfarwyddwr Hollywood, a gafodd ei blacklistio a'i roi o flaen yt Committee of Un-American Activities adeg witchhunt McCarthy.

Nesh i fwynhau y ffilm oedd yn taflu goleuni ar gyfnod o hanes ffilmiau America na wyddwn i amdano a hefyd ar faint mor intense oedd y pardduo ar y bobol a dueddai at Gomiwnyddiaeth. Stori wi r yw hi oedd yn reit syfrdanol, rhywbeth sydd ddim yn cael ei drafod yn amal iawn yng nghylchoedd ffilm mae'n amlwg. Un peth am y ffilm oedd yn wendid i fi oedd y driniaeth ysgafn o blant Biberman yn y ffilm, mae'n awgrymu eu bod yn anhapus wedyn gadael hynny heb ddim parhad wedyn deud ar y diwedd fel epilog fod y ferch wedi lladd ei hun pan yn 19. Roedd o chydig yn incongruous a'r diwedd hapus. Mae'r ffilm yn cael slating gan yr adolygiad yn IMDb ond dwi'm yn gwybod yr hanes felly nesh i ddim darllen gymaint mewn iddo.

Rhaid deud fod o'n ffycin brilliant gweld John Pierce Jones mewn ffilm efo Jeff Goldblum! Werth ei weld jest am hynna. Class!

Comments