Gwefannau: Addoli Elvis
Dyma wefan am Eglwys Yr Arglwydd Elvis , yr hwn wyt yn Las Vegas (nefoedd rwan), Deled dy Graceland, caneuer dy ganeuon ac felly ar y ddaear hefyd.
"Let him who is without bad singles cast the first Rhinestone"
Yr un person yw'r Iesu ag Elvis, mae'r dystiolaeth yma!
Posts
Showing posts from October, 2003
- Get link
- X
- Other Apps
FFilm: Spellbound
Be dio efo documentaries sinema gwych flwyddyn yma?
Yn gynta Dogtown and Z Boys, wedyn Etre et Avoir, wedyn Bowling for Columbine a rwan Spellbound .
Ffilm yw hon sy'n dilyn saith o blant hynod alluog ar sillafu ac sy'n gyffredinol hollol beniog, o'r Spelling Bees lleol i'r gystadleuaeth genedlaethol. Swnio'n boring? Ma'n ffantastic. Ma'r ffilm yn llwyddo i fod mor ddoniol nes eich bod chi'n methu sdopio chwerthin (wel, Harry Altman beth bynnag...gewch chi weld), cyffrous, efo dyfnder llawer mwy na jest dogfen o be sy'n digwydd.
Mae'n treiddio mewn i brofiad mewnfudwyr America, bywyd syml y midwest (a nyts "We're thinking of sending the other kid to the marines, he likes to play with guns and bombs and that..!"), y ffordd mae America mor gystadleuol, ella i'r gradda lle ame'n ddrwg i rai o'r plant (er, dio ddim byd tebyg i gystadleuaeth rhieni beauty pageants).
Ma'n taenu'r ...
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Giallo
Rheolau y genre Giallo (cyf: Melyn, lliw y llyfrau pulp eidalaidd)
Kinoeye newydd yn cynnwys erthyglau ar sinema Giallo , mae o chydig yn wanky ond digon diddorol.
Kioneye o Mehefin 2002 efo special ar genius Dario Argento.
Mae'r erthygl ar Suspiria yn werth ei ddarllen.
Ac yn ola Y Giallo Pages!
- Get link
- X
- Other Apps
48 Hour Film Scam?
Fringe Report 2003 ar y 48 Hour film Challenge
Stori ddigon ddiddorol am doji dealings y boi sy'n rhedag y gystadleuaeth (wych) yma. Edrach fel bod o di cahcu yn ei ddal yn trio newid y rheolau! A wel nath na r'un ffilm gan gymry ddod yn y top thri beth bynnag, er fod Ffilmiau Racing Snake o Lanelwy wedi cael lle ar restr fer Manceinion. Go dda Sian ag Edward!
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Darnau Dychrynllyd
100 Greatest Scary Moments: Channel 4 Film (10-6)
100 Greatest Scary Moments: Channel 4 Film (5-1)
Lle ma Jacob's Ladder? Suspiria? Ffilms David Cronenberg?
Dal yn credu fod nhw di cael y 10 ucha'n eitha agos. Ring fasa rhif 1 i fi ddo. Gwylio fo'n ty ar ben fy hun, cachu breeze blocks. O'n i jest ddim yn disgwyl o o gwbl.
List Nwdls:
1. Ringu
2. Suspiria
3. The Shining
4. Alien
5. The Omen
6. Jaws - jest am neidio allan o nghroen
7. Jacob's Ladder
8. Halloween - miwisig anghygoel
9. The Brood ...falla.
10. Un shot yn A Wedding gan Robert Altman , iasoer.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: City Of God
IMDb: Cidade de Deus (2002)
Ail wylio hon ar DVD. Doedd hi ddim cweit yn cael yr un effaith ar y sgrin fach. Dal yn dda, Benny dal yn un o'r cymeriad gora i ddod ar sgrin sinema mewn amsar maith. Mi wnesh i dddisgybn i gysgu am tua hannar awr ddo. Ella bo fi ddim yn bod yn deg...a wel. Nesh i gysgu yn ystod Les Triplettes De Belleville fyd, ag Intacto flwyddyn yn ol. Ma cysgu yn y sinema yn hyfryd....mmm. Amsar cysgu rwan deud gwir, gwaith fory. Ffag bach gynta a falla panad ola, wedyn ciando.
Pam dwi'n yfad gymaint o de ar y foment? O'n i byth yn arfar, nes i fi symud mewn efo yfwr chronic. Dwi rwan ddim yn cael fy nghoffi espresso arferol yn y bora a panad ar ei ol o. Ydw i'n od? Ydi nghorff i'n gaeth i'r ddau. Ai te yw'r vice nesa ar fy restr estynedig?
- Get link
- X
- Other Apps
Cerddoriaeth: Dvorak a'i Symffoni i'r Byd Newydd
Classical Classics - Dvorak's "New World" Symphony, Classical Notes, Peter Gutmann
Nesh i ddeffro bora ma efo chwilan yn y mhen i glywad y Symffoni yma gan Dvorak. Felly Kazaa'io hi a dwi'n gwrando arno fo rwan, mae'n un o'n hoff ddarnau clasurol (er, dwi'n cyfadda dwi'm yn nabod llawar). Dwi'n meddwl taw'r holl son am Asterix ar maes-e sydd wedi atgoffa fi. Pam hynny ddwedwch chi? Wel, hwn oedd y tap oedd yn car Dad pan oeddan ni ar wylia yn Ffraincryw adag, ag ar y pryd oedd na un rhgan o'r symffoni yn atgoffa fi o anturiaethau Asterix ag Obelix! Rhyfadd be mae cerddoriaeth yn evoke-io (ych , be di evoke yn Gymraeg?). Off rwan am fwyd yn Y Wharf, dwn im sut betha sydd yno ond ma'n bownd o fod yn rhyw ciabatta bolycs gor-brisiedig.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Breakfast At Tiffany's
Breakfast at Tiffany's (1961) at Reel Classics
Ffilm bora dydd Sul os fu na un erioed. Dwi ddim yn un am ffilmiau rhamantus fel arfar ond mae hon yn un gallai ei gwylio drosodd a throsodd. Mae Audrey Hepburn yn fwy na gwyliadwy, mae hi'n disgleirio. Yr unig broblrm efo'r ffilm ydi stereotype hyll Japanese Mr. Yunioshi efo'i buck-teeth a sbectols trwchus, dydi o ddim yn cael ei chwarae gan foi Japanese hyd yn oed (a dwi'm yn meddwl fasa unrhyw actor Siapanaeg efo hunan barch yn cymryd y rhan). Er, doedd Blae Edwards ddim yn un am fod yn sensitif efo stereotypes o dramorwyr...Kato, The Party . Serch hyn, cwyn bach ydi o, ma'r gweddill yn hyfrydolus.
"It should take you exactly four seconds to cross from here to that door. I'll give you two."
- Get link
- X
- Other Apps
Tintin yn y Gymraeg
IEITHOEDD TINTIN
Yn dilyn trafodaeth bach ddifyr ar faes-e, dyma rywfaint o wefannau am Tintin a'r Gymraeg.
Holl Grancods yn ieithoedd y byd!
Un arall...
Gwefan ar lle lle gallwch chi brynu llyfr Tintin ym mhob iaith y cafodd ei argraffu.
MAe hwn hefyd yn dangos yr ieithoedd mae ar fin cael ei gyfieithu iddo...
tair iaith o Wlad Belg: Ottintois, Brusseler (Marolien), Wallon.
Ydi rhain yn dialects nei ieithoedd yn eu hunain o'n i ddim yn gwybod amdanynt?
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Happy Now?
IMDb - Happy Now
Actio'n fflat, dim cemistri rhwng Ioan Gruffydd a'r love interest, gor-dddefnydd o pastiche Western - deud gwir gafodd o ddim ei ddefnyddio digon, tasa na lot fawr sa fo'n ddoniol a tasa fo'n dipyn bach sa fo'n subtle ond roedd o rwla yn y canol = anghyfforddus.
Rhaid deud fod y lleoliadau yn hynod brydferth efo fframio neis a defnydd o Bermo (dwi'n biased ylwch! pwy sa'n meddwl faswn i tuag at Bermo!). Roedd y stori'n ddigon difyr, efo lot o gymeriadau difyr a chofiadwy iawn(Blodwen, rheolwraig y pyb yn ei Iron Lung gwyrdd pastel!a Om Puri fel y tramp lleol), er fod y copar cefn gwlad yn stereotype goramlwg.
Y broblem fwya oedd yr actio. Doedd calon neb ynddi oedd yn gneud rhywun i ddiflasu braidd. Roedd yr ymdrech i neud murder mystery bach kooky Cymreig yn un cymeradwy a roedd llawer o'r elfennau yno, ond ar ddiwedd y dydd, mae'n nos, na sori, ar ddiwedd y dydd, sa da chi'n bacso dam am y ...
- Get link
- X
- Other Apps
Nol eto ar ol gwylia bach
Wel, gwylia o'r blog. Heb fod yn rhyw dramgwyddo llwybrau digidol y we ers tro felly fawr o ddim i riportio.
Wedi bod yn sgwennu sgript neithiwr ar gyfar ffilm fer. "Celwyddwallt" ydi ei enw, ysbrydoliaeth ysbrydol a ddaeth gan y diweddar Barchedig John Sbecs canys ef a fathodd y term, mewn bath mawr oren. Ac allan a ddaeth y stori o mhen. Ma'n raid deud fod Suw wedi fy ybrydoli i jest ista a sgwennu'r sdwff gwirion sy'n mynd mlaen yn fy nghraniwm.
Stori o rybudd ydi, stori am newid bywyd am y gora drwy wyrth y celwyddwallt. Di'm cweit di gorffan eto a dwi heb sgwennu y deialog (prin) sydd ynddi, ond rwbath gweledol ydi hwn fwy na dim, yn ol traed Jeunet a'i ddyfeisiadau difyr. Beth bynnag fyddai'n bwrw iddi eto heno ar ol gwylio ambell ffilm dwi di gael ar fenthyciad..."Happy Now?" a ffilmwyd yn Bermo, sydd fod yn Lynchaidd ond chydig yn fflat, a'r "Milwr Bychan" o 1986. Rioed wedi ei gwe...
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: House of a 100 Corpses
House of 1000 Corpses (2003)
O'n i'n gobeithio gweld ffilm refereatial i slasher's y 70'au ond 10 gwaith yn fwy, ar y gwaetha o'n i'n disgwyl gweld rhywfaint o tongue in cheek. Be gesh i y dyrdan fwya drewllyd rioed i gael ei roi ar seliwloid.
Dim tensiwn, dim dychryn, di-ddychymyg, actio gwaeth na unrhyw ffilm horror. O'n i'n bord hollol. Nath paawb yn y sinema chwerthin ar y diwedd (oedd na lot o bobol yno, dwi'n ama taw'r teitl gret sydd wedi denu pobl i'w weld). Ddyl Rob Zombie byth gael y cyfle i wneud ffilm eto, ddylsa fo orfod gwqylio ei ffilm ei hun drosodd a throsodd am weddill ei fywyd, neu nes bod o'n dysgu un peth am confensiynau horro.
Doedd na DDIM cydymdeimlad ag unrhyw un o'r cymeriadau, sy'n dinistrio unrhyw fath o densiwn.
Doedd na ddim dyfesigarwch yn y ffordd oedd pobol yn cael eu lladd nac yn unrhyw un o'r creaduriaid a chymeriadau sy'n tynnu unrhyw blese...
- Get link
- X
- Other Apps
Portmeirion yn helpu ysgol Croesor
BBC Arlein | Newyddion | Gobaith i ysgol o dan fygythiad
Chwara teg iddyn nhw yn cymryd rhan yn y gymuned lle mae pensaerniaeth Clough Williams Ellis mor flaenllaw. Mae'n dda gweld cwmniau preifat yn cymryd didordeb yn y cymunedau sydd o'u cwmpas. Ma Croesor yn lle prydferth iawn a buasai cau ysgol arall wledig yn drawiad arall i'r sefyllfa fregus sydd ohoni.
- Get link
- X
- Other Apps
Video Dychrynllyd
Creepy Clips - The largest collection of horror clips
Wedi ffeindio'r wefan yma tra'n chwilio am rithffurf i roi ar y fforwm trafod ffilm Empire dwi newydd ymuno a fo. Wedi gwario hannar y pnawn yn rhoi ias oer lawr y nghefn i. Mae'r un Poltergeist lle ma'r hogan yn disgyn mewn i'r pwll nofio mwdlyd efo llwytho sgerbydau ynddo yn wych.
Wedi gneud fi isio mynd i weld "House Of A 1000 Corpses" wsnos yma. Fydd raid gweld tair ffilm rwan: Young Adam, Bright Young Things a ffilm Rob Zombie. Sa jest ddim digon o amser.
- Get link
- X
- Other Apps
One Of The Hollywood Ten
One of the Hollywood Ten (2000)
Ffilm y Cymro Karl Francis am Herbert Biberman, cyfarwyddwr Hollywood, a gafodd ei blacklistio a'i roi o flaen yt Committee of Un-American Activities adeg witchhunt McCarthy.
Nesh i fwynhau y ffilm oedd yn taflu goleuni ar gyfnod o hanes ffilmiau America na wyddwn i amdano a hefyd ar faint mor intense oedd y pardduo ar y bobol a dueddai at Gomiwnyddiaeth. Stori wi r yw hi oedd yn reit syfrdanol, rhywbeth sydd ddim yn cael ei drafod yn amal iawn yng nghylchoedd ffilm mae'n amlwg. Un peth am y ffilm oedd yn wendid i fi oedd y driniaeth ysgafn o blant Biberman yn y ffilm, mae'n awgrymu eu bod yn anhapus wedyn gadael hynny heb ddim parhad wedyn deud ar y diwedd fel epilog fod y ferch wedi lladd ei hun pan yn 19. Roedd o chydig yn incongruous a'r diwedd hapus. Mae'r ffilm yn cael slating gan yr adolygiad yn IMDb ond dwi'm yn gwybod yr hanes felly nesh i ddim darllen gymaint mewn iddo.
Rhaid de...
- Get link
- X
- Other Apps
Gardd Cymru
The Garden of Wales - Homepage
Dwi'n meddwl y bydd hi'n drychineb os ma'r ardd yma'n cael ei chau lawr. Mae amgueddfa a chadwrfa i'n hunanieth fotanegol yr un mor bwysig a amgueddfa i'n adeiladau a llyfrau.
Ella eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad yn y marchnata a'u bod heb allu denu ymwelwyr sydd ddim dros 60, ond dwi'n gwir obeithio y gallan nhw gael rhywun mewn i'w achub a'i droi yn rhgywbeth mwy commercial am y tro. Cael digon o arian yn dod mewn i allu cario mlaen y gwaith pwysig cadwriaethol. Gawn ni weld fory'n cewn.
- Get link
- X
- Other Apps
Gloywi Iaith - Tips Wyn Gruffydd
Diolch i Chris yn Bratiaith Blog am y deunydd Gloywi Iaith
Lle mae dy luniau di wedi mynd Chris? Rho linc iddyn nhw ar dy wefan...er ma siwr dy fod ti ddim yn darllan hwn. Beth bynnag. Gloywch eich iaith, ma'n iachus ac yn well na cadw'n heini (Gruffydd.He!).
Sna'm byd gwell na defnyddio gair Cymraeg da, dwi wastad yn teimlo fel mong yn defnyddio geiriau mawr-clyfar Saesneg a does na ddim llawer ohonynt sy'n swnio'n bersain fel rhai y Gymraeg nac oes.