Bob yn hyn a hyn dwi'n cael ysfa mwya diawledig i ganu allan yn uchel ac yn aml iawn mae nhw'n ganeuon sydd wedi bod yn styc yn nghefn fy mhen ers oesoedd. Heddiw gychwynnes i ganu "It rolls down stairs alone or in pairs, runs over your neighbour's dog, it's great for a snack it sits on your back. It's Log! Log! Log! ayyb. Mae'r blydi can yma o Ren and Stimpy wedi bod yn llercian yn fy isymwybod ers tua 10 mlynedd! Oedd raid i fi ei ffeindio hi a gwrando arni! Cael gwared o'r dieflyn amhersain hwn sy'n tarfu ar fy niwrnod. Ren and Stimpy yn hollol wych wedi deud hynny, ddim ond y gyfres gyntaf ddo, cyn i'w creawdwr, John Kricfalusi, gael y sac am geisio neud pethau rhy wirion...ar Ren and Stimpy! Meddyliwch!

Comments

Popular posts from this blog