Bwtleg Bill
Bill Hicks Bootleg Archive
[diolch i Di-Angen oddi ar y Maes]
Posts
- Get link
- X
- Other Apps
Ar dy feic - am ddim Newydd gyrraedd nol o wythnos ym Mhrag (oedd yn wych gyda llaw) ac yn cychwyn meddwl am ble a'i ar y beic flwyddyn hon (fel mae rhywun yn syth wedi gwylia braf...). Dwi'n meddwl taw'r llwybr Celtaidd o Sir Benfro i Gas-Gwent fydd hi gan nad ydw i wir yn nabod yr ardaoledd ar hyd y llwybr hon heblaw am Benrhyn Gwyr. Dwi dal heb wneud darn deheuol y Lon Las gan i fi fynd ar grwydr drwy Geredigion fis Medi dwetha yn hytrach na dilyn y rhif 8 coch yr holl ffordd. Mae'n debyg y gallen i wneud Aberhonddu i Gaerdydd mewn diwrnod gan ei fod yn mynd am i lawr yr holl ffordd a gellir dal Bws y Bannau yn gynnar o Gaerdydd i fynd a chi a'ch beic (ar dreilar bach) fyny yno i chi gael seiclo nol. Tra'r o'n i'n chwilio am wybodaeth ar hyn oll ddes i ar draws tudalen ar wefan Sustrans , sy'n gyfrifol am y rwydwaith seiclo cenedlaethol, sy'n rhestru'r holl fapiau o deithiau beicio Cymreig gallwch chi gael am ddim (17 ohonynt). Gyd s...
- Get link
- X
- Other Apps
Gyrru
Pan o'n i'n 17 fe gychwynnes i yrru. Gesh i chwe gwers gan Cyril y crinc a dreifio'n ddyddiol bron i'r ffarm yn y Land Rofar yn ystod y tymor wyna. Ond, fe ges i annwyd, a gorfu i fi ganslo gwers. Big deal, ond y peth ydi dwi heb gario mlaen efo'r gwersi tan dydd Sul dwetha! 10 mlynedd yn ddiweddarach.
A dwi'n blydi joio nhw - heddiw ma nes i hyd yn oed gael mynd lawr Albany Road, dros death junction a fyny Newport Road - dair gwaith! A unwaith yn unig wnes i stallio'r car.
Dwi ddim wedi bod a diddordeb o gwbl mewn gyrru, ond mae wedi cyrraedd y pwynt lle na allai osgoi'r peth rhagor, er na fyddai'n gallu fforddio prynu car unwaith dwi wedi pasio. Dwi'n mwynhau trafnidiaeth cyhoeddus ac yn erbyn rhoi car arall ar ein ffyrdd pan nad oes angen ond mae'r angen ar gyfer gwaith a bywyd personol yn fy ngwthio i tuag at y modur.
A dwi yn edrych mlaen i allu dianc Caerdydd i fynd i gerdded ar bnawniau Sadwrn a Sul ac i allu myn...