Posts

Penblwydd hapus i ti... Penblwydd hapus i ti, penblwydd hapus i ti, penblwydd contllyd y basdaduch Regiadur , penblwydd hapus i ti - wedi cyrraedd y 500fed rheg heddiw. YMLAEN AT Y FIL!
Blynyddlyfrau(?!)(Annuals!) Original British Annuals from The Book Palace O Abba i Worzel Gummidge efo Dan Dare a Thransfformyrs yn y cnol. Nnnnostalgiattack rhan II...
Lluniau o'r gofod a llongau i hwylio drwyddo "Space Art in Children's books 1950's to 1970's" Mae hwn yn wefan lyfli gyda phentwr o luniau o longau gofod a siwtiau lleuad ffynci wedi eu trefnu'n gronolegol. I ddilynydd sci-fi mae hwn yn wefan ma raid ei phori. Mae'n atgoffa fi o edrych ar lyfr "Look and Learn" hen fy nhad pan o'n i'n 9 ,wedi i mi eu ffeindio mewn tea chest ffags Navy Cut yn y beudy llychlyd yn Llanfachreth. Mmmmnnnnostalgiattack.
Chwechantchwedegpump 665 - ella bo pobol wedi gweld hwn o'r blaen ond do'n i ddim felly dyma'i flogio. Gwefan yn gan foi o'r enw Jeffrey Power yn cynnwys 665 postiad gwahanol am bob math o sdwff o gartwnau i pranks i jest petha sdiwpid . Fatha blog finite. Difyr iawn.
Ffawdheglu mewn darluniau Mae'r BBC wedi diweddaru'r gem antur text based The Hitchhiker's Guide to the Galaxy i fod a lluniau! Neshi rioed gael yn bell iawn ynddo, cyfle arall... [o Boing Boing ]
Caethiwch Pensaeri Rhyddion Beijing! Mae gwefan BadJianZhu yn bodoli i ddangos a chywilyddu adeiladwaith hyllaf Beijing - y ddinas sy'n tyfu mor gyflym fod y cynlluniau adaeiladu'n gorfod cael eu contractio allan ysgolion cynradd a'u modelu gan ddefnyddio papur crepe a pritt-stik yn unig. Efallai dylia rhywun gychwyn gwefan debyg ar adeildadau newydd Caerdydd ...
Archwiliad doniol... Wrth edrych drwy stats Rwdls Nwdls, dwi newydd ffendio fod rhywun wedi dod i'r wefan drwy wneud search am " Ydi o yn gywir bod mae haul yn gallu neud chi yn dall " Heh!