Posts

Nol at y b-mwfis, sori, dyma'r obsesiwn newydd... Wedi bod yn meddwl am y rhaglen Mystery Science Theatre 3000 o'n i'n arfar gwylio pan yn iau. Roedd na ddyn a dau byped (robot a rwbath arall) mewn sinema yn gwylio ffilmiau shit a gneud sylwadau sarky a voiceovers eu hunain. Dyma restr o'r holl ffilmiau gwael y gwylion nhw drwy'r 6 cyfres ddarlledwyd rhwng 90-96. Oeddan nhw'n hileriys os dwi'n cofio'n iawn. Ma angan i rywun neud r'un peth efo hen raglenni Cymraeg. Mynd i archifau S4C a HTV a chael criw Y Rhaglen Wirion 'Na i neud y voiceovers...
Mwy am Star Crystal... O'n i'n gwybod fasa gen Badmovies.org y lowdown efo lluniau a MPEGs. Yeah! Rhaid i chi wrando ar y theme tune - clasur.
Z-mwfis: Ddy Syrch Continiws Newydd wylio Star Crystal (Lance Lindsay, 1986) . A roedd o'n braf cael mynd nol i territory Rock N roll Nightmare. Ffilm shit efo digon o laffs, actio sdiff, leins gwallgo, setiau cardbord a pypedau crap i barhau yr 90 munud. Scifi horror yn (trio) dilyn sdori Alien ydi o, sy'n diweddu fyny efo'r Alien yn troi'n ffrindia efo'r criw a chael troedigaeth i Gristionogaeth! Faswn i ddim wedi gallu dyfalu honna! Mae'r gan ar y diwedd hefyd yn werth yr aros. Os da chi'n gwled hi mewn bwt car, prynwch hi yn syth. Dyw gemau fel hon ddim yn dod rownd yn amal. Adolygiad o Bad Movie Planet Gwefan BadMovies.net, dim byd ar Star Crystal ond mae o fath blog b-mwfis. Mwy o sdwff B-mwfis ar Bad Movie Planet
Ffilmiau anime newydd Ma na dwr o rhain am ddod allan flwyddyn yma a mae na ddeud eu bod am dorri tir newydd o ran defnydd CG gyda animeiddio cell a drama byw. Dyma'r prif rai: Innocence: Ghost In The Shell 2 gan Mamoru Oshii - 2D mwy traddodiadol Cashhern gan ???? - cymysgu CG efo actorion ar sgrin las ond efo effaith wahanol i;r arfer Appleseed gan ???? - hwn ydi'r un sydd yn codi stwr, gan ei fod wedi costio llawer llai na ffilmiau cell arferol ond yn edrych yr un mor dda: mae tro ar fyd... Howl's Moving Castle - Miyazaki - sut ar y ddaear wyt ti'n dilyn Spirited Away ? Gwledd yn wir...
Gwyl Ffilm Cannes 2004 Mae gen i luniau o'r pedwar diwrnod gesh i yno ar fy moblog . Roedd hi'n hyfryd yno ond geshi ddim gweld llawar o ffilmia - brysur ar y stondin a dim pass marchnad. Dim ond Mondovino gan Jonathan Nossiter , a Oldboy gan Chanwook Park (a wnaeth "Sympathy For Mr Vengeance" ). Adolygiadau 'mhen chydig...
Ffilmiau Penwythnos hyn... Shaun of the Dead (Edgar Wright, 2004) - ffantastwych yr ail waith Paperhouse (Bernard Rose, 1988) - Productuion design anghygoel a syniad gwych ond mae'r actio'n sdopio hon rhag bod yn ffilm arswyd lwyddianus. Dinner Rush (Bob Giraldi, 2000) - Gret eto The Odd Couple (Gene Saks, 1968) - Doniol iawn, mae Lemmon yn comedi genius. Yn arbennig y darn lle mae'n trio dad-blocio'i glustau yn y bwyty.
Disney yn rhoi taw ar Moore Er cymaint mae Michael Moore yn gallu codi gwrychyn rhwyun gyda'i ffyrdd gegog mae'n warth fod cwmni Disney wedi blocio dosbarthiad ei ffilm newydd Fahrenheit 9/11 sy'n ymosod ar gysylltiadau Bush a'r teuluoed pwerus Arabaidd sy'n rheoli'r olew - Y Bush/Cheney Oil Junta fel y galwodd Vidal nhw . Mae yna sylwadau fod Moore yn gwybod hyn ers tipyn a'i fod wedi neidio ar hyn rwan er mwyn cael gymaint o gyhoeddusrwydd a phosib cyn dangosiad y fffilm yng nghystadleuaeth Palme D'Or Cannes - wel, os ti'n coelio'n gryf yn rhywbeth a dydi o ddim am gael ei weld adref yna ti am wneud yn dam siwr ei fod yn cael ei weld ym marchnad ffilm fwya'r byd.