Rhagflas o ddanteithion Pictiwrs Yn Y Pyb
Dyma grynodeb o'r campweithiau cryno fydd yn dangos yn noson gyntaf "Pictiwrs Yn Y Pyb" ...
Trafferth Mewn Tafarn (11 mun)
Ysg/Cyf: Eurig Salisbury
Mae bardd yn cyrraedd tref ac yn dod o hyd i lety ar gyfer y noson. Yno, daw ar draws hogan ddel, ac wedi iddo brynu gwin a bwyd drud, mae'n gaddo ymweld â hi yn ystod y nos. Ond wrth i'r noson fynd yn ei blaen a fynta'n fwy meddw aiff ei holl gynllun ar chwâl.
Grim (10 mun)
Ysg/Cyf: Gareth Gwynn, Nia Jones, Rhys Padarn
"Mockumentary" yw hon, yn ein arwain ar daith drwy ddiwrnod ym mywyd pedwar “Grim Reaper” yn Aberystwyth, ond sydd heb cweit ddeall dwyster eu swydd.
Gelyn Neu Gyfaill (13 mun 23 eiliad)
Ysg/Cyf: Neil Wagstaff
"Mae Beci'n mynd rownd mewn cylchoedd; yn chwilio am atebion i gwestiynau bywyd a chariad, ond yn methu'n glir a mynd heibio ei diffyg hunan-hyder pan ddaw hi at ddynion. Yr unig beth mae hi ei ange
Posts
Showing posts from January, 2005
- Get link
- X
- Other Apps
Meta-RhithFro
Mae Sion Jobbins wedi sgwennu erthygl ar y rhithfro sydd ohoni ar wefan Llen Ac Adloniant y BBC. Mae'n rhoi cyflwyniad i oreuon y we, ac dwi'n falch o ddeud fod Rhegiadur annwyl Twmffat a minnau yn eu mysg.
Dwi hefyd yn falch o weld fod blogiau Lol LwLw (blog doniol iawn wedi'i sgwennu mewn ffordd agos iawn atoch...ac sydd yn rhoi ryseitiau emyrjynsi pan nad oes gennych syniad be i'w goginio!) a BoB (dyna fyddai'n ei alw o hyn ymlaen!). Dau flog difyr ofnadwy gyda sgwennu da, sydd wir yn haeddu cael sylw pellach.
- Get link
- X
- Other Apps
Bwrdd "Croeso i goloneiddio"
Mae fy nghyd-weithiwr yn byw yn Lloegr, mae hi'n enedigol o Sir Fon. Heddiw ma, fe dderbyniodd hi lythyr gan Fwrdd Croeso Cymru. Dyma sut mae'n cychwyn...
"Dear ...
Come and add to our history
Over the centuries, people who've come to Wales have often left something behind. Ususally something with stone turrets, towers and a hefty drawbridge. Bring your family and a bucket and spade and you can do it too, if only in the sand. (We've even sent you a flag to stick it on top.)[mae fflag bach, o-mor-ciwt, wedi ei lynu i'r llythyr]
Sand is something we've got plenty of - miles and miles of it, in fact, wahsed by some of the cleanest seawater in the UK. And with hunreds of castles scattered here there and everywhere, we've got the inspiration too.
ayyb..."
Felly dowch aton ni i "ychwanegu at ein hanes" drwy beidio a dysgu dim byd am Gymru go iawn ac ymdrabaeddu yn eich colonialaeth
- Get link
- X
- Other Apps
Wil Salt - Heddwch I'w Lwch
Wel, mae un o gymeriadau mwya *lliwgar* Dolgellau wedi marw. Wil Salt, ne Salty.
Alci llwyr, ond un digon diniwad. Pan oedd o ddim yn chwildrins oedd o'n gyrru tacsis nol a mlaen o glwb nos hynaws y Sandandcer, Bermo, yn diodda joskins a chafis yn racs ac yn chwydu ar eu ffordd nol i dre (ac mae hynna'n cynnwys fi).
Ond y rheswm dwi'n blogio amdano ydi am ei fod yn mwydro pan oedd o'n llanast ac yn dod fyny efo'r petha mwya swreal. Ella nad ydi ei ebychiadau cymysglyd yn ddoniol nac yn ddifyr i unrhywun arall ond o'n i jest yn meddwl fod hi ond yn deg i rwbath fod ar y we amdano (ac os oes gan rywun gof o ragor o'i leins, rhowch nhw'n y sylwada).
Mi sefodd dan fwa Neuadd Idris o flaen y sgwar gan stampio'i goes dde ar y llawr yn herfeiddiol a bloeddio canu'r gan (y'i pennodd ei hun yn sicr) "Wi dont smoc Mari-wana un Dolgellaaaaa! Wi dont smoc Mari-wana un Dolgellaaaaa!" " x 47, pan
- Get link
- X
- Other Apps
Mw Mw, Me Me, ta Cwac Cwac?
Sounds of the World's Animals
Dwi'n cofio darllen llyfr Tintin yn Ffrainc a methu dallt pam fod Smwt/Milou, y ci bach, yn mynd Wouah! yn hytrach na Wow! a'r gath yn mynd miaou yn hytrach na miaw. Wel, mae fan hyn yn esbonio oll...heblaw fod chwi^d yn Estonia yn mynd "prääks prääks"
[Diolch i Chwads am hyn]
- Get link
- X
- Other Apps
Pictiwrs Yn Y Pyb
Dyma ni, datganwn yn hy a bloeddiwn o uchelfannau ein tai a chopaon ein mynyddoed - mae noson ffilmiau byr Cymraeg "Pictiwrs Yn Y Pyb" wedi cyrraedd!
Dewch yn llu a'ch mamgu
Mi fydd yn ddu fel fagddu
A gobeithio fydd dim pry, fry
...yrm ar y sgrin...ym gry?
Ta waeth fy rwdlan - pasiwch y neges mlaen at eich ffrindiau oll ac os da chi'n nabod rhywun sy'n gwneud ffilmiau anfonwch nhw i'm cyfeiriad. Mae fy nghyfeiriad ebost yn fy mhroffil.
- Get link
- X
- Other Apps
Dyfodol Sbedarec
"With a choice of 300 channels in Wales, where does S4C fit in?" erthgyl yn y Guardian ar sefyllfa S4C. Dim byd newydd rili ond mae'n rhoi rywfaint o safbwynt Menna Richards.
Mae hefyd erthygl yno ar ITVWales nad ydw i wedi ei darllen eto
(mae angen aelodaeth i gael mynediad i'r adran yma: os da chi'n methu bod yn arsed - nai ebostio'r cynnwys i chi. Mae fy nghyfeiriad ebost yn fy mhroffil.)
- Get link
- X
- Other Apps
Aloha Bobols Blogdiiedig
Cyfieithaid Cymraeg o'r Athronieth Aloha Hawaiiaidd
Y petha ma rywun yn ffendio ar y we...swnio'n synhwyrol iawn i fi. Byddwch yn glen i bobol eraill a fydd pawb yn glen nol ydi'r gist dwi'n meddwl. Rhagor o bostifirwydd allanol!
Mae un o'r cyfarwyddiadau'n od braidd: "Dewch o hyd i gorun eich pen a'ch bogail drwy ymwybyddiaeth a/neu gyffwrdd." Hmm, os ti ddim yn ymwybodol o dy fogel, ma na rwbath yn bod yn does - bronnau rhy fawr efallai?
Ta waeth am broblem y bogel, mae hi'n neges fach neis i feddwl amdani wrth fynd i gwely ar nos Sul dwi'n meddwl...nos da, a byddwch wych bob un!
- Get link
- X
- Other Apps
Cerddi gan blant ardal Dolgellau
Safle bach hyfryd gyda barddoniaeth wedi ei sgwennu ar y cyd rhwng disgyblion ysgolion Meirionnydd a Mei Mac, fel rhan o broject Cynllun Celf Meirion a redwyd yn haf 2003. MAe na lawer mwy ar y wefan ynghyd a lluniau gwych (ac yn eu mysg, llun o hogyn bach yn ysgol Dolgellau yn gwisgo cap stabal ! Hen ddyn ffarm yn 6-oed, blydi gwych! Sy'n atgoffa fi, pan o'n i'r oedran yna oedd gwn i het pig, "Pen-Gwyn" cyfaill Mistar Urdd , oedd ar fy mhen yn ddi-dor am tua 3 mlynedd solid)
Ysgol Machraeth - Disgyblion Ysgol Llanfachraeth gyda Meirion Macintyre Huws
(mae'r afon Babi yn rhedeg reit drwy ein ffarm ni adre yn Llanfachreth lawr hebio'r ysgol fach hyfryd hon)
Hen Bobol - Disgyblion Ysgol Y Ganllwyd gyda Meirion Macintyre Huws
Lliwiau’r Tymhorau - Ysgol Brithdir Dolgellau gyda Meirion Macintyre Huws
Trem y Môr a Threm y Mynydd (Cerdd wedi ei ysbrydoli gan ymweliad i Nant Gwrtheyrn) - Disgyblion Ysgol Ll
- Get link
- X
- Other Apps
Y chwerthiniad olaf i Buñuel?
Dead man laughing (o'r Guardian)
Sdori fach hyfryd nesh i fethu dros y dolig (diolch byth am bloglines ynde...), yn adrodd y dirgelwch olaf ynglyn a thranc y cyfarwyddwr swrealaidd, Luis Buñuel, a greodd ffilmiau fel " Un Chien Andalou " , " Belle Du Jour " a " Le Charme Discret De La Bourgoisie ". Ffilmiau sy'n dal i dderbyn clod y critics hyd heddiw.
Y pos olaf yma ydi, ble mae llwch Snr. Buñuel? Dwedodd ei weddw ei bod hi wedi eu cadw, abod eu lleoliad yn gyfrinach, ond mae Offeiriad Dominicaiadd ym Mecsico yn hawlio fod y llwch wedi bod dan glo ger yr allor yn ei eglwys! Tric olaf Buñuel efallai, oedd yn anffyddiwr llwyr, ar ei ffrindiau a'r byd. Ond mae ei weddw yn dweud fod hyn yn rwtsh, ac mae awgrtym taw hi oedd wedi chwarae'r tric drwy gyfnewid llwch Buñuel a rhoi'r un anghywir i'r offeiriad.
Wrth ddarllen roedd yn gneud i fi feddwl am gelf ffydd o'i gymharu a chelf anffydd
- Get link
- X
- Other Apps
Be ddigwyddodd i blant Milltown, un o ardaloedd coll Caerdydd?
"The unlikely lads" : erthygl ddifyr am daith Howard Williamson yn ol i Gaerdydd i geisio ffeindio'r criw o blant ddaru fo wneud astudiaeth ohonyn nhw ym 1973, ac i weld sut mae pethau wedi newid iddyn nhw, neu beidio, ers y cyfnod hynny.
- Get link
- X
- Other Apps
Celf a chyd-destun
Mi wnesh i ddarllen erthygl yn y Guardian ddydd Sad ar arddangosfa newydd o gelf futurist Marinetti gan feddwl, ewadd ma'r darluniau yna'n edrych yn wych. MAe'n nhw mor kinetic eu bod nhw bron a bod yn symud ac yn cymryd chi fewn i'r llun. Faswn i wrth y modd yn mynd i weld y rheina yn yr oriel yn Llundain. Gret.
Wedyn syndod i mi oedd darllen ar greg.org heddiw fod y lluniau bron oll yn luniau oedd yn canu clod i awyrennau bomio y Ffasgwyr Eidalaidd. Propaganda dan orchudd celf cyffrous.
Mae'n edrych fel fod Jonathon Jones, o'r Guardian wedi gweld trwy hyn oll , ac yn mynd yn bellach ac yn damio'r galeri am ddangos y ffasiwn bropaganda. Erthygl llawn poer a chas pur tuag at y "dyfodolyddion".
Cyd-destun eh? Pwysig yndydi.
Ella taw dyna sy'n bygio fi weithia mewn arddangosfeydd: dwi'n mwynhau celf, sydd ar yr olwg gyntaf yn rhywbeth reit ddi-nod, gymaint yn fwy pan mae na ryw fath o esboniad neu dehongl
- Get link
- X
- Other Apps
Mwy am flogio yn Gymraeg o'r UDA
Welsh Blogs, Part II - Suite101.com
Mae'r erthygl uchod yn ail ran o gyfres o erthyglau mae Sarah stevenson yn sgwennu am y blogosffer Cymraeg ( dyma rhan 1 ). Y tro hwn mae hi'n canolbwyntio ar flogiau sydd a lleoliad daearyddol pendant ac yn cyfeirio gan fwyaf a gwefannau dysgu Cymraeg.
Mae'n wir nad oes cymaint a hynny o flogiau lleol, hynny yw blogiau sydd wedi eu cychwyn gyda'r brif amcan o drin a thrafod pynciau lleol. Efallai gellir cyfri blogmenai yn un enghraifft o flog sydd yn bennaf yn blogio am bynciau perthnasol yn lleol, yn arbennig gwelidyddiaeth a iaith. Ond ar wahan i'r enghreifftiau i ddysgwyr yn yr erthygl, prin ydynt.
Efallai fod hyn yn deillio o'r ffaith fod rhyw syniad fod blog sy'n gwasanaethu cymuned (yn arbennig un wledig) ddim am fod a digon o ddarllenwyr sydd a diddordeb yn y pynciau dan sylw i'w gynnal, ond faswn i'n meddwl drwy gychwyn blogiau grwp y gall hyn fod yn est
- Get link
- X
- Other Apps
Rrrrrarrrrgol, sbiwch be sy fama, dio'n deud prrryd ma marrrt yn Sarrrn dwa?
Fforwm Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru
Iawn, ddylswn i ddim cymryd y piss, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc yn go bwysig. Nhw oedd yr unig rai oedd yn mynd a ni i lefydd i yfad pan o'n i'n 13, ac o'n i ddim yn meindio'r canu ac actio chwaith, siawns i ddianc o dre ac adra a chael ffag efo'r ogia tu ol y neuadd yn Brithdir.
Ydw, rwy'n cyfaddef oll, roeddwn yn aelod llawen fy hun. Roeddwn yn dal fy ngheffyl a throl yr holl ffordd i Brithdir yn bythefnosol, yn mynychu barn dances yn Cerrig, yfad llond trol o Diamond White a rolio gwmpas ar lawr y buarth efo torth neu ddwy, cyn cael pigiad ar y nghoc yn piso ar y danal poethion. Gwaeddi'n groch ar ddiwadd y noson i drio ffeindio Arfon/Geraint/Hywel oedd ar goll ar ben bryn wedi colli'u sgidia cyn dal mini bys Gwji Ganllwyd adra a chwdu allan o'r drws cefn tra'r oedd y blydi thing yn mynd lawr yr un ffordd a gerddodd M