"Good Morning, how are you? SHUT UP!"
Dwi wedi cael copi o CD Ivor Cutler gan ffrind i fi ac wedi bod yn piso chwerthin ar rai o'r caneuon bizarre a swreal sydd ganddo. Mae fel Vic Reeves folky gyda banjo a phiano.
Ewch draw i The Works of Ivor Cutler , gwrandewch a mwynhewch ei rwtsh pur.
Pwy yw Ivor?
``Ivor Cutler is a Glaswegian whose humour is surreal, to say the least. He is a master of anecdotes, monologues, comic songs and poems, commentaries on the more neglected aspects of everyday life, and just sheer nonsense. But very often, if one looks beyond the nonsense facade, there seems to be a glint of a message in it all - whether or not he intended it to be, we will never know.'' -- DA Eger
Posts
Showing posts from December, 2004
- Get link
- X
- Other Apps
Top Trymps Unbeniaid y Byd!
Be well ar ol sdwffio'ch hun nes eich bod yn chwysu cranberries a chronni digon o nwy naturiol i redeg y popty am flwyddyn arall na gem fach hwylus gyda'r teulu.
Pwy sydd a'r unben gorau?
"Be di angriness rating dy gerdyn di?"
"Idi Amin, 98%..."
"HAHA! Hitler sgen i, angriness rating 100% - tyrd a'r cerdyn na yma"
Jest printiwch y fersiynau pdf o'r cerdiau unben ac yna'u gludo i ddarn o gardfwrdd (dwi'n ffeinido fod family pack Frosties yn gneud y tro yn gret) yna'u torri allan yn ofalus gyda siswrn (gofynnwch i riant helpu chi gyda hyn) a ffwrdd a chi. Rhywbeth i hosan y mab efallai, neu bresant dolig perffaith i Taid. Hwyl i'r holl deulu, yn hel atgofion am yr erchyllderau a fu.
O'n i wastad isio "pocket dictator", BWM BWM!
Nadoli Llawen iawn i chi! (a diolch am y linc Ell, blydi gret!)
- Get link
- X
- Other Apps
Pam trio nhest car rwan pan fyddan ni'n fflio o fewn 15 mlynedd
Mae'r erthgyl yma'n rhagweld y bydd yr ymgais i leihau technoleg yn slofi lawr yn y 10 mlynedd nesaf oherwydd fod y gost yn mynd yn fwyfwy uwch fel yr a pethau'n llai. Yn ei le bydd llawer mwy o symud mlaen gyda thechnoleg nano, sensors, a thechnoleg di-wifr ac y rhain fydd yn newid ein bywydau ni o ddydd i ddydd. Bydd pethau fatha skycars a video conferencing efo holograms yn rhan o'r diwrnod gwaith cy nhir hefyd...
Mae'r skycar yma'n barod drwy gwmni Moller ac mae nhw hyd yn oed wedi gwneud profion llwyddiannus ohono ( fideo ohono fan hyn ).
Dyma grynodeb Roland Piquepaille o'r erthygl.
[trwy unmediated.org ]
- Get link
- X
- Other Apps
Deg Ucha Ffilmiau 2004 (yn fy marn pitw i wrth gwrs...)
1. The Return (Andrei Zvyagintsev)
2. Eternal Sunshine Of The Spotless Mind (Michel Gondry)
3. Switchblade Romance (Alexandre Aja)
4. Shaun Of The Dead (Edgar Wright)
5. My Summer Of Love (Pawel Pawlikowski)
6. Hellboy (Guillermo Del Toro)
7. Zatoichi (Takeshi Kitano)
8. Dead Man's Shoes (Shane Meadows)
9. American Splendor (Shari Springer Bergman a Robert Pulcini)
10. Oldboy (Park Chan-Wook)
Gweler deg ucha Pictiwrs fan hyn (er fod cryn rwgnach amdano gan fod sawl aelod heb gyfrannu!)
- Get link
- X
- Other Apps
Un bach arall cyn swpar...
Arcade History Database
Gwefan yn manylu hanes cannoedd, os nad miloedd o gemau arcade - gan gynnwys popeth o screenshots, i gynllun y casing, ac enwau'r dylunwyr a rhaglenwyr. Un o'r llefydd na lle gallwch chi fynd am oriau yn ymdrochi mewn nostalgia a hel meddylia am yr amseroedd da gafoch chi'n chwarae gemau cyfrifiadurol.
A ma di atgoffa fi am Xenon , gem anghygoel o dda, yn ogystal a chael hanes cychwyn Pong a Breakout . Sdwff gwych.
- Get link
- X
- Other Apps
Irac Drwy Lygaid Soldiwrs
Under Mars: An online archive of soldiers' photos
Dwi di bod yn pori'r wefan ma am yr awr ddwetha. Ma'n hollol compelling, ond ma na rai darnau tuag at tudalen 54 sydd yn graffig iawn. Ma'n sdumog i dal 'di troi a dwi'm yn siwr os o'n i isio eu gweld nhw. Na ni, dyna pam mae na rybudd ar dudalen flaen y wefan 'de.
[trwy unmediated.org ]
- Get link
- X
- Other Apps
Ffair Ebrill yn Nolgellau, 1956
Dyma gyfres o luniau hyfryd o Ffair Dolgellau a dynnwyd gan y ffotograffydd gweithgar, Geoff Charles.
Tlysau yn wir, o adran Casglu'r Tlysau gwefan y Llyfrgell Gen.
Mae'r llun o'r hogyn bach a'r gwn yn un gwych ac yn hon gallwch chi weld yr hen garej yn y cefndir. Edrych yn un hyfryd, ond Barclays Bank sydd yno rwan, a gafodd ei adeiladu yn y 90au.
- Get link
- X
- Other Apps
Bandiau All Tomorrow's Parties
Dydd 1
Wolf Eyes - pwy gychwynna fel hyn, a wel, deifio mewn i wal o sain distorted arbrofol y band gwych yma
Lightning Bolt - a mlaen i uchafbwynt y penwythnos, rocio fel na rocasant erioed
LFO - synnau gwych electronic dipyn o ganeuon cyfarwydd
Peaches - siomedig. Oedd y sioe yn ol reit i gychwyn wedyn nesh i ddiflasu chydig arni
Shellac - oedd lawr staer, nesh i'm rili talu sylw...pwy a wyr, yn y pyb yn malu cachu
Dydd 2
Destroy All Monsters - hen fois o 'Merica yn chwara rhyw jazz-rock ffiwsion reit neis. Am ryw reswm roedd y canwr yn sbio ar ei watsh drwy'r holl sioe. Od.
Bird Blobs - band o Melbourne, wnaeth gryn argraff arnai ar y pryd. Angan llwytho albym gan y rhain
The Liars - ddim rili'n talu sylw o hynny welis i
Miss Kittin - o'n i'n dechra joio ei ffwnc electro ond ges i nragio lawr staer i weld...
A Silver Mount Zion - oedd yn rhyw fand 7-darn gwerin arbrofol. Siawns fach i g...