Gwefan Tidy ar Wenglish
Talk Tidy. The language of South Wales as an art form.
Geiriadur geiriau Wenglish De-Cymru (a fforwm i'w trafod!).
Tidy like innit but.
Posts
Showing posts from August, 2004
- Get link
- X
- Other Apps
Pwsflog
Blog Cymraeg newydd Blemaergath . Enw da, yr awdur yn Llundain, perspectif arall ar bethau drwy'r Gymraeg - iei! Mae hefyd yn ddysgwr gyda crap go dda ar yr iaith rhaid deud.
Dwi'n gwbod fod na berig i'r blog droi mewn i rwbath diflas iawn (mwy hyd yn oed nag ydi o rwan - sgersli bilif) drwy flogio rhain ond mae'n reit ecseiting gweld rhein yn dod trwodd fesul un. Dwi'n drist? Berig...
- Get link
- X
- Other Apps
Mallder Mordicai
Dwi heb flogio hwn eto, ond dwi wir yn credu dylwn i hybu blog Mordicai cymiant ag y gallai. Nofel-flog ydi hwn o safbwynt unigryw Arglwydd y Tywyllwch - Mordicai!
Ewch iddo ac ymgrymwch wrth ei draed, cyn iddo dorri'ch penna ffwr' a thynnu eich calon allan a'i grafangau. Mae'r darllen yn wych ac mae digon o ddos o ddychan a digrifwch yno i gadw'e peth i fynd - ac mae'n sgwennu BOB dydd!
Digon o amser yng Ngwlad Y Drwg welwch chi...(damia fyddai 'di pechu rwan...)
- Get link
- X
- Other Apps
Bwyta'n a Phrynu'n Foesol
Top ffeif cwmniau sy'n cymryd y pys yn: Boycott the bastards
Rhestr o Shopper's Guides Moesol: Just Shopper's Guide
- chydig yn hen ond dal yn reit berthnasol
Dwi'n ffendio hi'n annodd gneud hyn yn iawn gan nad oes gen i amser i wneud fy siopa bwyd yn ystod y dydd, ond mae bob tamed bach yn cyfri dydi.
- Get link
- X
- Other Apps
Blogiau Cymraeg a Chymreig o LiveJournal
I ddechrau mae na un gan Loo Loo o'r maes, hwre!: lol_lwlw
Rhai Cymunedol Cymreig
Wales
Cymuned Dysgu Cymraeg (gyda 102 aelod !)
Caerdydd
Swansea Life
Addicts Llambed
cymrugothic
Blogiau Cymraeg o LiveJournal
archfalhwyl
Cymro1980 (un cofnod yn unig, edrych fel ei fod oherwydd diffyg trafod yn Gymraeg ar LiveJournal)
Blog Cymraeg Marnanel
pilipala (un arall gychwynnodd ond wnaeth ddim parhau...)
Ac yn fwyaf od mae na flog o'r enw Amddiffynfa sydd yn gyfangwbl mewn Rwsieg!
W, a sbiwch pwy arall sy'n stelcian yna 'fyd!
- Get link
- X
- Other Apps
Mapio Blogs
Tra'n darllen blog Kamikaze Cymru ddes i ar draws blog oedd yn rhan o London Bloggers , sef map ar ffurf map y tiwb, o blogiwrs Llundain.
Fasa hi ddim yn gret cael un o rhain i flogiwrs Cymru? Yn Saeneg ac yn Gymraeg? Mae'r Rhithfro yn gret ar gyfer blogiau Cymraeg ond be am flogiau Cymreig hefyd?
- Get link
- X
- Other Apps
Blogosffer Cymraeg
Ma na ryw rwgnach ar maes-e fod blogiwrs Cymraeg mond yn blogio am eu gilydd , wel dyma brofi a gwrthbrofi pwynt y person dan sylw:
Mae blog Chris Castle - Bratiaithflog - wedi cael ail-wampiad (a chywiro treiglad!) ac nawr yn canolbwyntio ar luniau o gamera digidol Chris. Neis iawn ydyn nhw hefyd.
Mae na blog pel droed gan Gary. Dwi'n siwr ei fod o'n ddifyr i bobl sy'n lecio ffwtbol.
Blog newydd englyn y dydd gan Nic (dwi'n meddwl). Lliwiau hyfryd gan y blog ma'n rhaid deud. Pleserus iawn i'r pipars.
Ac efalla'n fwya cyffrous:
- blog "Gwleidydd" gan Y Pyndit. Blog bach sy'n edrych fel ei fod am frathu sodla a chodi crachan neu ddwy. Hehe! Hen bryd.
a
- blog Siocled a Fodca yn Gymraeg ar ffurf recordiadau sain gan Suw. Awdioblog. Waw, y posibliadau...
Ac un arall bach difyr i ychwanegu - moblog o Sblot gan Gary (arall)
Mae hi wedi prysuro rhywfaint yn y rhithfro ar unwaith, dowch a...
- Get link
- X
- Other Apps
Cronfa: Archif Dolgellau Ar-lein
Dyma gasgliad o ddogfennau a ffotograffau o archif Dolgellau wedi eu digideiddio yn cynnwys:
- lluniau o'r heddlu ar droad y ganrif
- cneifio ym 1913
- Gwersyll yr Urdd Glanllyn yn y 50'au
- Cwrs golff Dolgellau ym 1922 (gwisgoedd a golygfeydd gwych!)
- Sgotwrs y Bermo oddetu 1900
- Syrcas Byffalo Bill yn Nolgellau(!) 19eg ganrif hwyr
Sdwff gwych yn wir, dwi wrth y modd yn darganfod yr hen luniau ma a da o beth eu bod yn cael eu digideiddio 'fyd. Mae angen cael mynediad i'r petha ma.
(o wefan casgliadau digidol Cymryd Rhan )