Mynd i'r Pictiwrs.com
Mae'n debyg gan fod Macsen wedi ei flogio, a thipyn o gofnodion ar y wefan ei hun erbyn hyn, ei bod yn amser mynd a Pictiwrs.com yn gyhoeddus.
Blog grwp ydi pictiwrs.com, yn cynnwys adolygiadau ffilm, a phostiadau amrywiol eraill am unrhywbeth i wneud a ffilm, o wefannau difyr i newyddion o Gymru a thu hwnt . Ewch nawr! Gobeithio fagith o gryn fas-data o adolygiadau ffilm yng Nghymraeg.
Posts
Showing posts from July, 2004
- Get link
- X
- Other Apps
Blog newydd i restru ffilmiau (clywch WAW enfawr...)
Dwi wedi sefydlu blog bach newydd er mwyn rhestru'r ffilmiau dwi wedi eu gwylio yn lle rhestru nhw fan hyn a diflasu pwy bynnag sy'n darllen y sdwff ma hyd yn oed mwy.
Enw'r wefan yw Stafellddu , felly os oes ganddoch chi ddiddordeb, sdiciwch hi yn eich ffefrynnau neu dolennwch iddi yn eich blog neu jest anwybyddwch hi'n gyfangwbl (llawer mwy tebygol), beth bynnag dyma'r cyfeiriad gwe:
http://stafellddu.blogspot.com
Mae Blog Rwdls jest am fod ar gyfer sdwff an-ffilmaidd (gobeithio) a crap dwi'n ffendio ar y we felly falla na fydd o'n cael ei ddiweddaru cyn gymaint ag oedd o, ie, hyd yn oed llai.
- Get link
- X
- Other Apps
Mmmmmmmakeover!
O'n i'n bord ar yr hen flog, felly dyma'r steil crand newydd. Gadwch negas i ddeud be da chi'n feddwl.
Un peth sydd wedi digwydd ydi fy mod wedi colli yr holl sylwadau a wnaethpwyd ar y wefan (mmmm, ddim llawar. Ond diolch i chi a wnaeth!). Mae entation wedi mynd mas o'r ffenest a mae sylwadau blogger wedi cymryd drosodd. Dwi ddim cweit wedi gweithio allan sut mae cyfieithu'r rhan sylwadau eto ond dwi'n siwr ffendiai o cyn hir.
O ia, os ma rhywun yn gwbod sut ma cael crynodeb a linc i sylwadau diweddaraf ar y bar ochr faswn i'n falch o glywed...a hefyd sut ma gneud maint tecst y dolenni'n llai. Mae o di mynd yn masif yn awtomatig rywsut.
- Get link
- X
- Other Apps
Chydig o'r ffilmiau diweddar dwi di anghofio blogio...
Dwi angan cychwyn rhywle ar wahan i hyn dwi'n meddwl.
Tootsie (Sydney, Pollack, 1982)
Ju-on: The Grudge (Takashi Shimizu, 2003)
Fahrenheit 9/11 (Michael Moore, 2004)
Master and Commander: The Far Side of the World (Peter Weir, 2003)
Amator (Krzysztof Kieslowski, 1979)
Morvern Callar (Lynne Ramsay, 2002)
Buffalo Soldiers
(Gregor Jordan, 2001)
Shattered Glass (Billy Ray, 2003)
Day After Tomorrow, The (Roland Emmerich, 2004)
Twisted (Wayne G & Stuart Who, 2004)
Made (Jon Favreau, 2001)
Fair Game (Mario Andreacchio, 1985)
- Get link
- X
- Other Apps
Helfa B-Mwfi
Deadly Avenger (David Sheldon, 1981) (aka Lovely But Deadly)
Un arall ar y silff o siop drysorau fids Cathays. Sdori hogan, hogan o'r enw Mary Ann Lovett, "Lovely" i'w ffrindiau, sy'n mynd nol i ysgol i gael dial ar y pushers cas ar ol marwloaeth ei brawd (wnaeth o redeg mewn i'r mor i chwilio am Tiwna a boddi tra'n 'strung out' ac wedi edrych mewn i'r haul!).
Mae "Lovely" yn digwydd bod yn rhan o all-girl 80's karate squad yr ysgol (woo ha!) sydd aga arweinydd sy'n edrych fel Sam Fox! Mae hi'n lladd Captain Magic drwy sdicio ei dope lawr ei wddf a wedyn yn mynd ar ol y big bois.
unwaith mae;r ffilm yn mynd yn action i gyd mae'r actio'n gwella (am fod neb llawer yn gorfod siarad rhagor) ac o'r herwydd, mae'r laffs yn diflannu. Piti garw, ond, fel 'na roedd rhaid iddi orffen.
Felly mae "Lovely" yn aros ar y silff yn hytrach na cael swop nol efo'r siop.
...
- Get link
- X
- Other Apps
Y We Gymreig: Astroleg gan Cinio Caru
Mae hwn yn un o;r pethau doniolaf i fi ei weld ar y we yn gymraeg. Cahcboeth tu hwnt i gachboeth.
Cliciwch fan hyn a wedyn cliciwch ar "Astroleg" ar y bar llywio i gael at eich ser am y diwrnod.
Dyma oedd fy un i:
Y Cranc
22 Mehefin - 23 Gorffennaf
"Gan fod y lleuad, planed yr annisgwyl, yn dylanwadu arnot, gofala rhag cymysgu dy chwaer รข dy nai."
Ffocin hel! mae hi'n werth gweld be sydd ar gael gan yr arwyddion eraill hefyd. Mae swrealaeth yn fyw ac iach ac ar wefan Cinio Caru - deud gwir dwi'n eitha hoff o;r rhaglen hefyd. Hileriys!