Blog am Wleidyddiaeth yng Nghymru (efo slant adain dde)
The Liberty Dragon: On freedom and devolved government in Wales
Edrych fatha fod y boi wedi sdopio blogio ers Hydref 2003.
Posts
Showing posts from April, 2004
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Doc Tintin!!
Newydd ddarllan yn Screen International fod y ffilm ddogfen "Tintin and I / Tintin og mig" yn dangos ma y tro cyntaf yng ngwyl ffilmiau dogfen Hot Docs yn Toronto.
Methu gwitsiad nes bod hwn yn taro'n glannau, os fyth y daw: mae mewn Daneg. Er, dwi'n meddwl fod digon o ffans Tintin i'w gyfiawnhau.
- Get link
- X
- Other Apps
oniolwch ar y we: Graham Rawle
Gwefan y dyn sy'n cyhoeddi'r cartwn Lost Consonants yn wythnosol yn y Guardian. Wedi ffeindio hwn drwy gyfweliad doniol iawn a fo yma ar B3TA. Mae'n gneud i fi chwerthin bob to.
Da chi'n gallu meddwl am unrhyw rai da Cymraeg?
Rhagor o stwff mae o'n ymwneud a fo yn hysbysebion dwl Niffactuals .
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Rhestr Obaith (Wish List megis fel petai)
Sun Also Rises, The (1957)
Sylwi fod Bob Evans (gweler blog isod) wedi actio;r brif ran yn hon. Fasw ni wrth y modd yn ei gweld hi. Ddarllenais i'r llyfr tra ym Mhamplona yng ngwyl y teirw a'i mwynhau i ryw radda. I ryw radda am mod i'n ei chasau hefyd mewn ffordd od. Mae'r cymeriadau mor atgas o upper class ond eto mae'r ysgrifennu mor dda. Mi wyliais To Have And Have Not unwaith ac mae hi'n ffanfycintastic (sut allai hi ddim fod efo Howard Hawks ar y llyw a Bogey a Bacall yn smowldro).
Slim: "You know you don't have to act with me, Steve. You don't have to say anything, and you don't have to do anything. Not a thing. Oh, maybe just whistle. You know how to whistle, don't you, Steve? You just put your lips together and... blow."
Mae'r rhen Bacall yn y nghael i bob tro. Sdyning.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: DVD
Kid Stays In the Picture, The (2002)
Ffilm ddogfen arall dda iawn, yn son am high life a chwymp Bob Evans y cynhyrchydd Hollywood. Dim ond stills a hen footage gyda troslais ydi o, ond mae'n gweithio'n wych ac yn dal y dychymyg.
Am amser, bois bach. A fynta, y cwd, wedi gneud seren o Polanski a darganfod Chinatown. Mae cenfigen yn hen beth afiach tydi.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Gwefan
Images: A Journal of Film and Popular Culture
Tarddle cyfoethog arall o erthyglau ac adolygiadau am ffilm a'r ddelwedd symudol.
Adolygiad Kill Bill Vol.2 - cytuno mewn sawl agwedd, faswn i mond wedi rhoi 2 seren allan o bedwar.
Traethawd ar foderniaeth a mise-en-scene yn "Brazil" gan Terry Gilliam.
Ma newydd atgoffa fi hefyd fod raid i fi wylio "Midnight Cowboy" eto'n fuan...
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: sinema
Kill Bill: Vol. 2 (2004)
Cyf: Quentin Tarantino
Mi gesh i'n siomi.
Roedd y ffeits yn reit dda yn arbennig darn Pai Mei, ond roedd y darnau yn y canol yn eitha tedious, yn arbennig y briodas yn y cychwyn a'r malu cachu rhwng the Bride a Bill.
Doedd yna jest ddim digon gwahanol yn weledol i allu cyfiawnhau ail ffilm. Fe fwynheuaids y cynta'n fawr ond roedd Uma fach yn fy niflasu.
Uchafbwyntiau: Michael Madsen, Pai Mei a'r Perchennog Hwrdy Mecsicanaidd. Dyna fo.
Oedd y miwsig ddim cystal a'r llall tro ma chwaith. QT Deffo wedi rhedeg allan o syniadau.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: DVD
Withnail and I (1987) - Anchor Bay
Cyf: Bruce Robinson
Jest y peth ar nos Sul o benwythnos meddwol. Symud mlaen fel "I", dechrau diwrnod newydd yn glir fy mhen! Mae'r rhaglen ddogfen "Withnail and Us" ar y DVD yn gret hefyd.
Gwefan gyda lluniau a chlipiau sain.
Gwefan am Bruce Robinson : dio heb neud llawar o ffilmiau da erill naddo? Still Crazy??
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Teli
Newydd wylio golygfa gawod Psycho (1960) - mae o'n un o;r treats sinematig na da chi jest yn anghofio amdanyn nhw weithia. Mae Hitch mor calculating efo pob symudiad y camera, a mae'r fframio o Janet Leigh (reit ar yr ohcr chwith) pan mae hi wedi cael ei thrywanu ac yn llithro lawr ochr y wal yn sybleim. Dwi awydd prynu'r fffilm rwan hyn.
Gwylio mymryn o ffilm Bill Murray - Stripes hefyd. Eitha doniol mewn ffordd croes-rhwng-animal-house-a-police-academy. Ac roedd Warren Oates ynddo fo, dio ddim wedi bod mewn ffilmiau classy drwy ei yrfa ta, na Nic? :winc:
- Get link
- X
- Other Apps
Pensaerniaeth
Capel: Cymdeithas Treftadaeth y Capeli
Ffeindio'r wefan uchod ar Miri Mawr , a chytuno faint mor bwysig ydi cofnodi ein capeli cyn iddynt ddiflannu. Dwi'm yn grediniwr o bell ffordd ond mae nhw'n rhan o'n hanes ni a mae dyletswydd arnon ni i o leia gadw cofnodion manwl o'r adeiladau os nad oes arian ar ol i'w cadw'n sefyll.
Mae'n anghygoel meddwl fod cymaint ohonynt wedi eu hadeiladu a fod cymaint o bobol yn mynychu a'u llenwi nhw ar un adeg. Dwi'n gwybod fod rhai capelwyr yn disgwyl y bydd resurgence o fath yn dod i'w achub ond welai mo hynny'n digwydd yn y dyfodol agos.
- Get link
- X
- Other Apps
Gwefiaduro (blogio)
"Blog all about it" - Erthygl yn y Grauniad
Diolch i Dwisio'r Llinell am hyn. Ma'n od, be sy'n genud i fi blogio. Ffyni edrach nol i'r rhai cynta, jest esgus i siarad rwtsh llwyr oedd o, ond mae o rwan wedi dod yn dri peth cyfun: cofnod o wefannau dwi'n ffeindio'n ddifyr (a dwi'n meddwl falla fasa pobol eraill yn), cofnod o'r ffilmiau dwi di wylio a pwtyn amdanyn nhw (sy'n helpu fi sortio;r ffilm allan yn fy mhen yn lle jest anghofio amdano, osma rywun arall yn darllan y bits yma, dyna fo), ac ychydig o ddarnau o marn i a petha felly yn gymysg ynddynt rywsut.
Yn wir, mae o'n rhywbeth eitha vain i neud, ond dydi o'n cymryd llawar o'n amsar i i neud o felly pam lai. Faswn i mond yn clytro fyny maes-e efo'n mhetha aniddorol! Waeth i fi gadw nhw'n rhywle ar wahan fel hyn ynte.
Mae yn biti nad oes na wefiaduron sydd yn llenyddol ac yn bleser i'w darllen os yn ddoniol neu ddifrifol. Mae...
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Dod cyn hir
The Hitchhikers' Movie: An Interview with Garth Jennings and Nick Goldsmith
Cyfweliad gwych a'r cyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm newyddd sydd am ddo allan yn 2005 gobeithio. Mae na lwyth o sylwadau am y ffilm a'r cymeriadau ac r'on i'n meddwl fod hwn (isod) yn ddyfyniad gwych:
"JL: What do you think is so special about Hitchhiker's? Why do so many people care about it?
Garth: We had the pleasure of meeting Mr Stephen Fry the other day, and he summed it up better than I've ever been able to do. He said that it was a bit like when you go to see an Eddie Izzard concert, and you're there with thousands of people, there you are cracking up laughing, but you always get the feeling like you're the one who gets it just a bit better than everybody else and everyone's laughing but they don't really quite understand the subtlety of what you're all listening to. That was his comparison to the way we all feel ab...
- Get link
- X
- Other Apps
Y We
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy - Ar Lein
Mae project Douglas Adams yn dal i fynd yn ei flaen wedi ei farwolaeth ynghyd a'i ffilm hir ddisgwyliedig. Gobeithio gwnawn nhw degwch iddo yn yr hyn a gynhyrchant. Mi sgwennodd o'r rhan fwyaf o;r sgript ond hawdd iawn yw gwneud cachu hwch o'r holl beth yn ystod cynhyrchu. Fasa hynna'n siomedig iawn.
Dwi'n darllan "The Salmon of Doubt" ar y foment a dwi jest yn meddwl fod Douglas Adams yn un o'r awduron hynny sy'n gwneud i bethau cymleth ddod yn rhywbeth dydd i ddydd ond fod popeth hefyd a doniolwch a swrealaeth ynghlwm ynddo. Dyn gwych yn wir.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Sinema
Lost Boys, The (1987)
Cyf: Joel Schumacher
Be all rywun ddeud? Class.Chwara teg, nath Joel Schumacher ddim llawar o ddim gwerth chweil ar ei ol, er ei fod wedi cael y sianws i gyfarwyddo llwyth o sdwff. Batman and Robin? A Time To Kill? Phone Booth? 8MM? Oedd Flatliners yn iawn decini.
- Get link
- X
- Other Apps
Ffilm: Sgrin Fawr
Zulu (1964)
Cyf: Cy Endfield
Gwylio hon fel rhan o gynhadledd Cyfrwng , oedd, gyda llaw, yn hynod ddiddorol ac wedi codi sawl cnonyn yn fy mhen ond sdori arall di honno. Roedd yna ddangosiad o'r ffilm a thrafodaeth wedyn gyda Lady Elen Baker (gweddw Stanley Baker , y prif actor, yn enedigol o'r Rhondda), hanesyddion ffilm, hanesyddion y Zulu, a critics ffilm. Roedden nhw'n trafod y ffilm yn ei gyd-destun Cymreig a faint roedd Stanley Baker fel cynllunydd y project eisiau iddi roi lle i Gymry ar y sgrin fawr. Mae'r cymeriadau a'r portread erbyn hyn yn llawn stereoteips ond mae dal yn wych clywed cymeriad yn crybwyll ei dir ffrwythlon nol yn y Bala ym Meirionnydd.
Mae'r holl Imperialaeth a diffyg sylw i'r Zulu yn mynd yn ormod ond, roedd y critics yma'n ceisio dweud fod y ffilm yn wahanol i epigau colonial eraill yn y ffaith ei fod yn cwestiynu rhyfel a phwynt yr holl beth yn gyson drwy'r ffilm. Yn wir, mae na lawer o be...
- Get link
- X
- Other Apps
Tai
Guardian Unlimited Money | Special_reports | Is it time to fasten our seatbelts?
"According to Halifax, the total value of property in the UK has nearly doubled during the past five years; in a separate report, the lender said West Glamorgan and Gwynedd in Wales had seen prices increase by more than 55% over the last 12 months alone."
- Get link
- X
- Other Apps
Ar y we, lle deche'n de
Lle i ffeindio petha ffycd yp fel Lyrics y Beatles yn Gymraeg Gan Rhyw Berson o Brifysgol Cornell Yn America...
"Go figure" fel 'sa rhywun arall yn deud. Wele esiampl:
Tripiwr Dydd
Gen i rheswm da
Am gymryd y ffordd allan hawdd
Yr oedd hi'n dripiwr dydd
Tocyn un-ffordd, ie
Yr oedd hi'n mor hir
O hyd dod, a nes i ddod
Mae hi'n 'smaliwr fawr
'Nghymryd i hanner y ffordd
Ceisies ei boddhau
'Mond chwarae naeth hi un nos"
.
.
.
Fuodd Cefin cariad i Cornell?
- Get link
- X
- Other Apps
Ar y we, mae pethau deche
Obsesd efo Eluned Morgan??
Be ffwc? Ma rhywun yn obsesd efo Eluned Morgan ac wedi gwneud gwefan i'w haddoli , nath y dudalen luniau uchod roi laff i fi, parhewch drwy'r lluniau a gewch chi syrpreis.
Wedi darllen tameidiau a gwir, mae ei sgwennu'n hyfryd a nwydus. Od iawn ddo.
- Get link
- X
- Other Apps
Ydach chi....
...rioed wedi meddwl am Patagonia fel hyn o'r blaen?
O wefan lawn dop ulw o waith Jan Svankmajer yr artist, animeiddiwr a gwneuthurwr ffilm enwog o wlad Czech. Mae gen i un o'i ffilmiau ar VHS "Little Otik" di enw fo. Mae o amdan ddau riant sydd efo log fel plentyn. Aye, sdwff od ar y diawl.
- Get link
- X
- Other Apps
Omaigod...
The Tool Page: Stinkfist Video
Newydd weld y fideo uchod gan y band Tool (gellir islwytho o'r wefan hon), mae o'n ffycin brilliant. Pobol wedi neud allan o dywod yn gneud petha rili ffrici. Boi o'r enw Adam Jones ( Imdb ) sydd wedi ei gyfarwyddo, aparyntli mae o'n gitarydd i'r band hefyd. Grwfi.
Ma holl fideos Tool ar gael i'w islwytho fan hyn. Ma'r miwsig bach yn lame ddo, chydig rhy American nu-metal shit.
- Get link
- X
- Other Apps
Trin a thrafod yn ddwys...ahem
Seiat y Cynganeddwyr: Rhegi
Dyfyniad:
"Trwy gabledd a phlwyfoldeb mae Cymro yn rhegi, nid trwy ffugio geiriau am weithredoedd y corff. Does dim angen i laslanciau Cymru gwario chwaneg o oriau yn onanu tra'n fathu lol ar gyfer yr erthyl safle y cyfeirir ato, dim ond er mwyn cael y ffug bleser o gael dweud bod geiriau drwg ni cyn ddryced â rhai y Sais - twt lol botas maip!"
*piso nglos a bron disgyn oddiar y stol* hahahahiiii!
"Erthyl safle"! Dwi'n lecio honna, ella fydd raid i fi roi honna ar dudalen flaen y Rhegiadur. Rhyw fath o destimonial.
Bytheiriwch fois a pheidiwch gadael i'r erthylwr "anhysbys" eich dargyfeirio! Nid llwyrymwrthodi ac osgoi trythyllwch yw ein Cymru ni. Rhegwch, diawliwch, a chymerwch bleser ynddo.
Os gwneud, gneud yn Gymraeg ynte!
- Get link
- X
- Other Apps
Dachi'n rhegi? Da chi'n rhegi? Ffycin jaco's!
Abersoch.co.uk Webcams
Sori am y floedd uchod, ond ma gweld gwefan am Abersoch yn gyfangwbl yn Saesneg yn gneud fy stumog i droi.
"Oh, look at those beautiful photos on the webcam, let's buy a house there. Mmhm, one of those chalets on the beach thery're only £50k. We'll just have to skip decorating this year. What do you say Frances?"
Ma na un gyfa am Ddolgellau sydd heb gyfieithaid, sa chi'n meddwl fasa rhywun o fewn y dre efo amser i wneud, neu well fyth tasa'r cyngor tre'n talu i rywun wneud. Ma'n swnio fel fod y boi'n ddigon agored i hyn ddigwydd chwara teg.
Hwn ydi be ma'r byd tu allan yn ei weld, os dydyn nhw ddim yn gweld Cymraeg ar y wefan pa ddisgwyl iddyn nhw feddwl fod angan dysgu Cymraeg os symudant yno?
- Get link
- X
- Other Apps
Hawliau cynnwys creadigol ar y we
weblog | Creative Commons
Mae'r wefan Creative Commons yn anelu at alluogi dosbarthiad cynnwys gyda rhai hawliau wedi'w cadw gan yr awdur ond rhai eraill yn rhydd. Dwi heb edrych yn union ar sut mae hyn yn gweithio , ond mae'n edrych yn ddiddorol.
Nesh i ffeindio fo drwy sylwi fod rhai ffonlonluniau yn cadw rhai hawliau drwy'r leisans yma.
- Get link
- X
- Other Apps
Erthyglon a straeon o bedwar ban byd
Four Corners
Grwpflog newydd lle mae pobol o wahanol rannau o'r byd yn gallu postio straeon ac myfyriadau. Mae yno sawl awdur (yn cyfri yr hyfryd Suw Charman. Dyma ei erthygl .)...dyma eu disgrifiad hwy eu hunain o'r wefan:
Four Corners is life and its many facets. Food, technology, music, politics, culture, games, language: interrelated and intertwined. What we want to create is a place to provoke thinking, spawn creation, inspire adventure. Much time is spent in modern media discussing how separate and different everything is -- we want to fuse it all back together into the greater whole. Location doesn't matter: it's all about vectors.
Fluid vs Static
Production vs Consumption
Globalizing vs Globalized
Creation vs Recreation
Inspiration vs Desperation
Living, creating, adventuring.
Four Corners.
Mae'n swnio'n lle eitha difyr i fynd am gip weithia.
- Get link
- X
- Other Apps
Cofnod All Tomorrow's Parties 2004 - penwythnos 2
Pobol dwi isio cofio o ATP (cofnod i fi di hwn mwy na dim felly anwybyddwch os da chisio):
Valentina Italiana, Swedish Rob (oedd arfar drymio i Placebo), pouty Toni - ffrindia newydd nos Wenar aeth a fi ar gyfeiliorn gan beri i fi fod yn sal iawn dydd Sad, ond doedd dim ots - roedd hi'n gret o noson/fore
Paul Nectar o Hull a'i ffrind Elana - partneri dawnsio caws nos Sul a barhaodd tan reit yn y diwedd
teutonic Tomas o Norwy
Paul Flaherty y cerddor freeform jazz a phaentiwr drwy broffesiwn ei farf hynod o wyn a llaes a'i ymagwedd hawddgar,
Claire wenog ar grwydr
Colin y perchenog siop recordiau yn Southampton - obsesd efo siwmper Barfog am ryw reswm
Y bands nesh i weld dydd Gwener (curators: Stephen Malkmus and the Jinks):
Fiery Furnaces - ddim yn cofio rhain o gwbl ond dwi wedi ticio nhw am ryw reswm!
Nina Nastasia - llais hyfryd ond oedd y violin ag accordian yn redundant am ryw reswm
Enon - gen...
- Get link
- X
- Other Apps
Llwythi o sdwff newydd!
Mae mynd trwy wefannau diweddar Miri Mawr wedi dod fyny a sawl man diddorol - wele...
Gwefan dairieithog Iesu Grist... - Y? Lluniau neis o'r Veedubs ar wyliau. edrych fel fod mwy o waith am ddod arno.
Llechwefan - Hanes Llechi Cymru - wyddoch y gelwid llechi yn ysglatus ar un adeg? Na? Na fi chwaith. Lluniau gret yn eu oriel , dangos faint mor nyts oedd gweithio yn y cloddfeydd.
Gwefan ffan i fand Y Cyrff
Islwytho caneuon Y Cyrff
Gwefan Y Barnwr - synfyfyriadau gan foi sy'n byw ger Brymbo.
Ddim ar Miri Mawr ond drwy Maes-e:
Recordiau Slacyr - Gwefan neis gan label Texas Radio Band a Pep Le Pew
- Get link
- X
- Other Apps
Moblog difyr...
Light & Dark
Mae gen y person yma syniad ac yn gweithredu fo yn lle jest neud random lluniau. Dwi'n lecio'r syniad o dynnu lluniau am i fyny a gweld petha ti byth yn sbio arnyn nhw fel arfer. Neis.
Diolch i bobols y maes am y geiria caredig am fy moblog. Nais won chaps!
Fyddai'n ypdetio o wyl gerddoriaeth All Tomorrows Parties o prynhawn yma mlaen...
Nai drio cael llun o Barfog a Moelog ar y go karts!
- Get link
- X
- Other Apps
Treth ar dai haf: Os mae Lloegr yn gneud pam na wnawn ni?
BBC NEWS | Politics | Second home council tax rise
Mae hwn yn rywbeth y dylem neidio arni fel cam positif hawdd tuag at gyfrannu at y gost leol. Dydyn nhw'n cyfrannu fawr ddim i siopau a busnesau lleol felly trethwch nhw. Efallai fod modd sicrhau fod y dreth yma ddim yn taro pobol o'r ardal sy'n prynu ail dy er mwyn rhentu, ddylsa hyn gael ei groesawu a chan fod y twristiaiad am ddod, ddim ots be fydd pobol yn gneud, waeth i bobol leol fod yn gneud yr arian ohonynt.
Efallai y dylai yno hefyd fod treth arbennig tuag at greu sysytemau i alluogi pobol sydd yn symud i fyw yma i ddysgu Cymraeg ag ymwneud a'r gymdethas leol yn lle bod ar wahan. Mae'n rhaid genud hi mor hawdd a phosib i bobol ddysgu Cymraeg a chael eu integreiddio mewn i'n cymdeithas neu cyn hir fydd ein cymdeithas ddim yn ddigon cryf i allu gwneud hynny.