Posts

Showing posts from August, 2003
Ahaaaaar! Mor Ladron agogo Nath darllan erthygl yn Empire fy ysbrydoli heddiw i wneud search am ragor o wybodaeth ar hoagn o'r enw Anne Bonny oedd yn for-leidr(es?) enwog. Mae ei hanes yn hynod ddiddorol ac yn symud o gael ei alltudio o Iwerddon, llosgi planfa ei thad a rhedag criw efo Calico Jack Rackham a Mary Read . Y peth diddorol am Rackham ydi ei fod efo'r un enw a'r mor leidr Rackham Goch yn y llyfrau Tintin heb yn wybod i Herge pan oedd o'n sgwennu'r storis. Ma'r holl hanes mor ladron yn anghygoel o ramantus ac anturus ac yn corddi delweddau di ri. Dwi am fynd i weld Pirates of the Carribean fory, deffo. Mae angan bach o byclo swash arnai ar ol darllen amdan y bobol ma, a'r peth gorau ydi fod y reprobates cofiadwy yma yn dod o dras Cymreig yn amal iawn. Fyddai lawr yn y Bae dydd Llun wedi haijacio y cwch sy'n rhoi tour fyny'r taf, commaderio fo allan drwy y barrage a fyny i ogof yn Sir Befro lle byddai'n cuddio a a byw ar neidio...
Dolenni Lu Newydd ddarganfod Everlasting Blort - ffrycin brilliant randomness, be di random yn Gymraeg dwch? Dipresd heddiw ddo am bo fi di stopio yfed. Penwythnos wyllt a gwario gormod o bres ar bwz. Shitar o beth ond wedi malu cachu a cal ffwc o laff ar y ffordd. Dwi yn teimlo braidd bo fi di neud ffyc ol erfo mhenwythnos ond ne ni, felna me hi de.
We Like Tha Mooooooooon! ....cause it is close to us!
Bwni o Japan! Ffocin hel!Ma na bobol wallgo yn y byd ma. Dwi'n blogio hwn fel teyrnged i'r diweddar gelain gwningen Ooolong Ond na ni, ma'r boi jest yn caru ei gwningen, ma gan pawb intimate relationship efo'u cwningod does...sgwn i os dio di berwi ei wraig? Dyfyniad o'i gyflwyniad: "Oolong is so calm and patient -- he never gets angry when I take pictures of him. When I put various objects on his head, he stays still for a minute. This is just a result of an intimate relationship between me and Oolong. The main theme of my site is not to show these 'headperformance' links, and it's not my hope to propagandize nothing but the strangeness of his headperformance over the world. Oolong's headperformance-- many foreigners seem to feel it 'crazy', but Japanese people feel it just cute and funny. It is the difference of international feeling." O mai god.... Fy hoff head-performance Ella nai gychwyn gneu...
Rwtsh Ratsh Rwdins Shwdi bobols, bora Sad a dwi'n trio osgoi gwylio'r gem rygbi ar y teli allan o ofn gweld ein tîm annwyl yn cael eu maeddu gan dîm mini-rygbi Lloegar. Cwilydd. Da ni'n shit ar chwara rygbi dyddia ma. Noson ddigon difyr neithiwr, un o'r seshus random nos wenar na all ond ddod ar ôl 3 Hoegaarden ar stumog wag. Peilio beic mewn i bwt car nofelydd o fri a gadael y rycsac ynddo ar ôl mynd i Backstabbers a dim ond sylwi nad oedd gen i fy mag a'i gynnwys tua can llath o'r ty. Ac oedd, roedd fy ngoriad ty ynddo ac oedd, roedd perchenog y car wedi mynd i gysgu gan droi'r ffon ffwrdd. Wel, nol a fi i'r Backpackers a rwdlan efo boi o 'Merica oedd di disgyn mewn cariad efo Cymru ac am symud draw ma. Wedyn, chwara teg i'r annwyl Melsan, nath hi adael i fi grasho yn ei thy bach twt yng Nglanrafon. Felly, felna ma hi heddiw, dwi'n benderfynol o wneud y penwythnos ma mor random a gallai, dwi off i gychwyn da. Dwi yn teimlo fel fod...
Ffilm: The Big Sleep Gwylio hon yn hwyr neithiwr, a'i mwynhau hi o ran y deialog siarp a pherfformiadau gwych gan Bacall a Bogart, ond oes na rywun arall di cael trafferth gwybod be ffwc sy'n mynd ymlaen. O'n i ar goll ar ol tua hanner ffordd drwodd. Ai fi sy'n thic neu ben-gwmwl dan yr annwyd ma?Oedd na gymaint o strands stori'n mynd ymlaen a chyn lleied o amser i'w amsugno fod popeth wedi mynd yn drech na fi. Dwi'm yn deud na wnes i ei mwynhau ond ella fod y trosiad o'r llyfr heb weithio mor dda ag y medrai. Dwi am ei gwylio eto, a dwi'n siwr ddaw hi yr ail ddro. Ella fod hi'n Se7en-aidd yn hynny o beth...( dwi'n falch mai nid fi yw'r unig un. )Fodd bynnag, mae Lauren Bacall yn fy nychryn braidd, mae hi'n hynod brydferth ond mae ei llygaid hi yn bell iawn o'u gilydd a'i cheg yn giami. Bach yn weird. Ond mae ei llais hi, aaaaah, rhyw ar ffurf tonnau sain. Peth od am y Big Sleep hefyd oedd fod pob un hogan ynddo yn gorjys,...
Ddim cweit mor sal, ond dal yn ffecin sal Wedi sylwi fod Blog arall Cymraeg, wel dwy-ieithog wedi ymddangos gan foi o'r enw Philip J . Blog ar ffurf dyddiadur ydio. Ar blog Hogyn o Rachub nesh i ffendio'r linc, sgwn i os dyn nhw'n nabod eu gilydd?
Dal yn ffecin Sal Deffro heddiw am 3 y pnawn ar ol cael 15 awr o gwsg. Ffycin hel! Nes i mond deffro am 8:30 i ffonio mewn i gwaith wedyn cysgu stret drwodd! Dal i deimlo fel cachu mot efo phen fel balwn a lyngs fel dwy fegin tan glo. Felly dwi di neud ffac ol heddiw blaw am fynd lawr i heol Splott i brynu llysiau a sbeisys i neud clamp o gyri Dhal heno i blastio'r diawl ma allan o'n sustam i. Methu bod yn ffwcd i gychwyn coginio eto ddo. Beth bynnag, dwi di cychwyn edefyn ar Faes-e am hoff Gyfarwyddwyr a wedi mynd trwy restr ar wefan Greatest Films sylwi nad oes cymaint a hynny o gyfarwyddwyr benywaidd enwog dathliedig( celebrated ). Ma na amball un sydd ar i fyny fel Samira Makmalbaf o Iran sydd wedi stynio pawb efo'i ffilms aeddfed a di mond yn 20. Mae eichwaer 16 rwan wedi neud ffilm sydd wedi ennill gwobrau! I fynd nol at y pwynt, yr unig gyfarwyddwr Hollywood ellwn i feddwl amdan oedd Kathryn Bigelow , nath gyfarwyddo Point Break, y ffilm syrffio ddigon de...
Sal Sal heddiw, y ngwddw i'n teimlo fel bod rhywun di bod yn sandio fo neithiwr a chythu'r llwch lawr i'n lyngs i. Mae fy system imiwn wedi cyrraedd pwynt lle ddudodd o NA dim rhagor! Ma hi di bod yn haf ddigon prysur efo ryw wyl neu gilydd yn digwydd bron bob penwythnos. Wedi cael cynnig i fynd i Benrhyn Gwyr penwythnos ma ond dwn im os ai. Wedi cael cynnig mynd i fffilmio ffilm guerilla 5 munud o gwmpas Caerdydd penwythnos ma fyd. Sialens ydi hi lle da chi'n cael genre nos Wenar, gorfod sgriptio saethu a'i golygu erbyn nos Sul! Y 48 Hour Film Challenge ydi ei enw. Ddylsa fod yn laff, trio cyfrannu rhyw syniad neu ddwy a bod yn rhan o'r miri. Gai weld os ma'r pen ma di clirio gynta ddo. Ffyc dwi'n swnio fatha typical dyn yn winjan am y peth lleia tydw, mond isio bach o sylw gan y rhyw orau ydw i de!
Ffilm: DVD Wedi prynu 5 DVD newydd am £30 yn Virgin... The Apartment - clasur Billy Wilder ennillodd bentwr o Oscars The Big Sleep - Bacall a Bogart, y ddau sydd a'r cemeg rhywiol mwyaf i fi ei weld ar ar y sgrin. Rosemary's Baby - I fod yn un o'r horror's mwya dychrynllyd erioed, gadwai hon ar gyfer nos Sul pan dwi'n hyngofyr a paranoid, jest i neud yr effaith yn fwy Bully - Dilyniant Larry Clark i Kids, wedi cael adolygiadau da The Man Who Wasn't There - Un arall i ychwanegu at restr ddiddiwedd y brodyr Coen o ffilmiau gret. Dal heb wylio'r Picnic At Hanging Rock nes i brynu bythefnos nol. Sna'm digon o amsar yn y dydd i'w gwylio nhw gyd!
Ffilm (eto): Interactive Cinema Esh i lawr i weld shoot ffilm fer newydd sy'n cael ei wneud drwy arian y Loteri y diwrnod o'r blaen. 'Textual @ttraction' yw ei deitl. Bydd y ffilm yn cynnwys rhannau sy'n anfon negeseuon i'ch ffon ar ffurf sms. Nath o gael i fi feddwl am sinema interactif go iawn. A oes modd cael gwir elfen o ymateb a newid naratif gan y ffilm yr ydych yn gwylio yn pasif fel arfer. Dwi dal ddim yn argyhoeddiedig y gall weithio ond dwi'n credu fod angen arbrofi efo technoleg newydd a gweld ble'r aiff pethau. Mae'r medium y sinema yn gyfyngedig braidd ar gyfer bod yn rhyngweithiol am ei fod yn ei elfen yn 'mass' medium, sydd yn ei gwneud hi'n annodd i bederfyniad un person effeithio ar bleser gwylio pawb arall. Fasa na chaos yn y sinema efo pawb yn dewis sdwff gwahanol i ddigwydd ar y sgrin fawr. Dyna pam y daw ar y pc yn gyntaf, mae'n digwydd yn barod fel systemau AI ar gemau cyfrifiadur. Welai ddim sut gall...
Ffilm: Saul Bass Ma'r wefan yma'n haeddu blog ar ei phen ei hun. Teyrnged i'r dylunydd credits a phethau eraill, y meistr - Saul Bass .
Ffilm: La Communidad La Communidad yn wych! Un o'r comediau gorau i ddod allan o Sbaen ers sdwff cynharach Alodovar. Chaotic, farcical, neurotic. Mae'r steil lot fel Delicatessen (mae'r rhan fwyaf o'r action ar risiau bloc o fflatiau) a chymaint o gyfeirio at ffilms Hitchcock mewn ffordd neis nid cawslyd. Mae'r credits agoriadol yn werth y pris mynediad ar ei ben ei hun, teyrnged i Saul Bass a wnaeth gymaint o sdwff i Hitchcock yn y 60'au. Mae na un darn sydd yn roguefort-llyd ac sydd yn sdicio allan fel bawd sor ond nes i ei esgusodi'n syth fel camgymeriad bach yn 'judgment' y cyfarwyddwr a chario mlaen i fwynhau. Ewch i'w gweld, prynwch hi a llawenhewch! Gwylio Profondo Rosso gan Dario Argento nos Fercher a wedyn ffilm Troma o'r enw Terra Firmer . Edrych mlaen yn ofnadwy ar gyfer yr Argento. W, mae'r wefan yma am Argento yn wych a chynhwysfawr joiwch.
Myg Gesh i'n ffycin mygio neithiwr yn Adamsdown gan ryw gont bach slei diwerth, ffycin slyg, amoeba, bashi byswc. Dwyn fy ffon a fy walet nath o, ond doedd na'm ceiniog yn y walet ag oedd y ffon yn ddigon rhad hefyd ond wedi deud hynny oedd o'n ddigwyddiad digon dychrynllyd a deud y gwir. O'n i'm yn gwbod be oedd yn mynd mlaen am tua awr oherwydd yr adrenalin oedd yn pwmpio drwydda i. O'n i'n meddwl y dylswn i fod wedi rhoi dwrn i'r boi, ond ffwcio fo, do'n i'm yn mynd i achosi niwed i fi fy hun dros betha gwirion fel'na. Ma di rhoi dipyn o noc i'n hyder i'n cerdded drwy Sblot serch hynny a dyna dwi di gwylltio efo. Basdad, ffacin is na llysywen llysnafeddog yn yr afon. Gobeithio dagith o ar ei swpar heno.
Clwb Nos dwi'n gutted bo fi di methu allan arno! Damia! Damiadamiadamia! Sut bo fi di methu hwn dwch? Clwb nos yn chwara steff electroclash yng Nghaerdydd. Ond, mae'n dod nol ym Mis Medi. Yee haaa! Emerge ydi ei enw fo, rhywun awydd dod yn Medi?
Ffilms Waw, dwi heb son am pa ffilms dwi di gweld ers oes. Felly... Hulk Gwych, gwych, gwych. Ma Eric Bana wedi hitio'r jacpot fan hyn mewn clasur Arall gan Ang Lee. Sydd, fel ma Sight and Sound yn deud, yn troi allan i fod yn un o gyfarwyddwyr mwyaf diddorol Hollywood. Ma'r golygu fel comic ynddo heb ei ail. Gwreiddiol, diddorol, gafaelgar, llawn action a digon o themau oedipal a gwrth-ryfel i gadw chi'n tician drosodd. Animal Factory Ffilm bach dda iawn gan Steve Buscemi o lyfr Edward Bunker . Dilyn hanas Edward Furlong yn cyrraedd carchar ma y tro cynta ac yn cael ei fabwysiadu gan un o fois cleta'r lle. Mae'n tense iawn - ydi'r boi ma sy'n edrach ar ei ol 'for real' neu oes ganddo ulterior motive? Gwylio The Pianist eto neithiwr - o mai god mae o'n ffilm wych. Gwella eto ar yr ail edrychiad. Polanski nol ar form. Be gawn ni nesa? Mynd i weld La Communidad heno, i fod yn ffilm sy'n rhan o'r New ...
Ffilms Waw, dwi heb son am pa ffilms dwi di gweld ers oes. Felly... Hulk Gwych, gwych, gwych. Ma Eric Bana wedi hitio'r jacpot fan hyn mewn clasur Arall gan Ang Lee. Sydd, fel ma Sight and Sound yn deud, yn troi allan i fod yn un o gyfarwyddwyr mwyaf diddorol Hollywood. Ma'r golygu fel comic ynddo heb ei ail. Gwreiddiol, diddorol, gafaelgar, llawn action a digon o themau oedipal a gwrth-ryfel i gadw chi'n tician drosodd. Animal Factory Ffilm bach dda iawn gan Steve Buscemi o lyfr Edward Bunker . Dilyn hanas Edward Furlong yn cyrraedd carchar ma y tro cynta ac yn cael ei fabwysiadu gan un o fois cleta'r lle. Mae'n tense iawn - ydi'r boi ma sy'n edrach ar ei ol 'for real' neu oes ganddo ulterior motive? Gwylio The Pianist eto neithiwr - o mai god mae o'n ffilm wych. Gwella eto ar yr ail edrychiad. Polanski nol ar form. Be gawn ni nesa? Mynd i weld La Communidad heno, i fod yn ffilm sy'n rhan o'r New Wave Sbaeneg o ffilmi...
Ffilms Waw, dwi heb son am pa ffilms dwi di gweld ers oes. Felly... Hulk Gwych, gwych, gwych. Ma Eric Bana wedi hitio'r jacpot fan hyn mewn clasur Arall gan Ang Lee. Sydd, fel ma Sight and Sound yn deud, yn troi allan i fod yn un o gyfarwyddwyr mwyaf diddorol Hollywood. Ma'r golygu fel comic ynddo heb ei ail. Gwreiddiol, diddorol, gafaelgar, llawn action a digon o themau oedipal a gwrth-ryfel i gadw chi'n tician drosodd. Animal Factory Ffilm bach dda iawn gan Steve Buscemi o lyfr Edward Bunker . Dilyn hanas Edward Furlong yn cyrraedd carchar ma y tro cynta ac yn cael ei fabwysiadu gan un o fois cleta'r lle. Mae'n tense iawn - ydi'r boi ma sy'n edrach ar ei ol 'for real' neu oes ganddo ulterior motive? Gwylio The Pianist eto neithiwr - o mai god mae o'n ffilm wych. Gwella eto ar yr ail edrychiad. Polanski nol ar form. Be gawn ni nesa? Mynd i weld La Communidad heno, i fod yn ffilm sy'n rhan o'r New Wave Sbaeneg o ffilmi...