Posts

Showing posts from June, 2003
Sinema - Dark Water Ffilm arall cachu pants gan Hideo Nakata - mae'r Japs yn wir feistri ar y genre yma ar y foment. Nes i neidio tua troedfedd oddi ar fy set ar un adeg a chael ffit o gigls am fod mor blydi gwirion! Oedd o mor spwci, a'r defnydd o gerddoriaeth a'r design sain yn wych. Oed dna un adeg lle roedd Nakata di recordio deialog yr actorion mewn stiwdio a doedd na ddim swn ambient y yr olygfa o gwbl. Oedd o'n rhoi ryw deimlad mor anghyfforddus fod rwbath drwg am ddigwydd. Mae o hefyd yn gadael lot o le o amgylch yr actorion ar y sgrin fel eich bod chi'n edrych o gwmpas i weld os ma rwbath am fynd pipo rownd y gornal. Ma'n rhoi tingyls i fi rwan. Ewch i weld bwy bynnag sy'n darllan hwn. Mae o'n wych pych.
Pensaerniaeth Caerdydd Bu uffar di'r big deal efo gwario ar adeilad y cynulliad yng Nghaerdydd ? Ma'n hen bryd i ni gael chydig bach o adeiladau hanner diddorol yma yn ein prifddinas neu fyddwn ni byth yn BRIF-ddinas go iawn. Mae angen dewrder efo cynllunio y ddinas, bach o ffycin balls. Ma'r blociau fflatiau monolithaidd sydd newydd gael eu hadeiladu yng nghanol dre yn mynd i edrych yr un mor ddiflas a'r tyrrau eraill sydd na o fewn 5 mlynedd. Be ddigwyddodd i gelf pensaerniaeth? Mae'r bae yn rywbeth arall, os na fydd y fflatiau or-brisiedig yna lawr yn y bae yn troi mewn i ghetto o fewn 15 mlynedd ar ol i bobolsylwi faint mor shit ydi o i fyw yno, nai wisgo sgert a make-up a mynd mewn i pyb y Tredegar yn Sblot a dechrau gwaeddi "Swansea jacks!" (ddim yn syniad da...) Dwi'n bersonol yn edrych mlaen i weld yr adeilad newydd mae'n edrych yn reit ddiddorol a bydd yn llawer gwell adlewyrchiad o bwysigrwydd y sefydliad fydd yn trigo ynddo.
Cader Idris Nol yn Nolgellau y penwythnos hwn. Bum i fyny'r Gader am y tro cynta ers tua 3-4 mlynedd. Diwrnod gweddol glir, dim gormod o haze a'r golygfeydd lawr Aber y Fawddach a lawr cwm Tal Y Llyn tuag at Dywyn a Chraig y Deryn yn wych. I fyny'r llwybr ceffyl aethon ni'n tri gan gyrradd y pinacl fewn 1 awr a thri chwarter. Rhannu brechadan o Bopty'r Dref yno gyda dafad ddof, oedd y diawl yn gwthio ei drwyn mewn i focs brechdan pawb. Ar ol ymio ag aio, a chyda cryn berswad gennaf i, aethon ni lawr gan ddilyn y llwybr llwynog ne'r foxes path enwog . Oedd o'n ol reit i gychwyn ond iesu ath o'n serth a scri yn rolio dan ein traed. Ma angen cael bach o adrenalin yn mynd ar adega fel hyn does! Molchi gwynab yn Llyn y Gader a lawr at Westy Llyn Gwernan am beint haeddiedig. Ma'n od ffor ma na rywun gwahanol yn rhedag y lle na bob tro dwi'n mynd yno a ma nhw gyd yn gwerthu peint sal! A wel ma'n rhan o apel y lle rywsut. Diwrnod arall yn...
Rendezvous Tra'n fflicio drwy'r peth wmbrath o sianeli iwsles sy ganddon ni ar y lloeren, mi gyrhaeddis i ar Top Gear efo'r cont dan din yna Jeremy Clarkson. Dwi ddim fel arfar yn cario mlaen i wylio fo am y rheswm a) Sgen i'm car b) Sgen i'm llawar o ddiddordab mewn ceir ac c) am bo Clarkson cont dan din arno fo....OND oedd o'n deud fod na clip o ffilm tanddaearol am ddod mlaen tuag at ddiwedd y rhaglen. Felly, gyda'n niddordeb i wedi ei gynna dyma fi'n aros...ac o roedd o'n werth pob eiliad. Ffilm 9 munud o gar yn mynd ffwl pelt drwy strydoedd Paris y 70'au ben bora. Roedd o'n rysh ag yn brydferth ag yn, jest o mor Ffrengig. Pwy fasa'n meddwl fasa'r twat Tori na'n gallu dod fyny efo rwbath mor sublime ar ei raglen gachlyd o. Ond mi wnath, a wenis i fel giat drwy'r nos. Dwisio gweld o mewn sinema rwan. Beth bynnag Rendezvous di enw fo, ma na glip fanhyn ac erthygl yn yr Independent fanhyn £14.99 bach yn ddrud am 9...
Robert Doisneau Wedi dod ar draws gwefan fach reit neis efo lluniau safon rili da y ffotograffydd yma. Boi oedd yn wych am dynnu llunia o ddigwyddiadau dydd i ddydd ym Mharis. Ffeindiais allan amdano drwy edrych ar ddylanwadau Jean Pierre Jeunet a Marc Caro ar eu gwefan nhw. Mynd ar tangent bach nes i tra'n trio gosod y basau data MYSQL ar gyfer y Rhegiadur (fydd genod cyfieithu di-ri Caerdydd yn estyn amdano r'un mor gymaint a'r "Brucie" gewch chi weld (enw anwes am eiriadur?? shwrli cychwyn salwch meddwl ol-fodern Gymreig)) ma fi a "Henfoi" yn trio dylunio, dwi'n hollol ar goll efo'r diawl, ond ma Henfoi'n dipyn o sgolar ag yn dallt y programing langwijus ma. Fyddai'm dau chwinc yn dysgu chwaith...HAHA me' fo!
Teirw... dwi fod i neud hyn mewn 3 wythnos... Plis, dwi ddim isio marw! Dwi'm yn gwybod os allai neud o. Ma'n edrych yn ffiaidd ac yn ffwc o beryg. Ydi o'n werth peryglu fy mywyd ar gyfer dathlu rhyw sant Fermin o rwla yn Sbaen pan dwi'm yn grefyddol?? Ond eto ydi hyn yn cop-out ag ydw i jest yn bod yn wirion, wedi'r cyfan does dim RHAID i neb fynd mor agos a hynny at y teirw , gewch chi fynd cryn bellter o'u blaena. Damia, damia, damia. Blydi teirw, fydd y blydi llunia na yn y mhen i rwan am y tair wythnos nesa.
B-Mwfis Met wedi anfon linc i mi o wefan y Joe Bob Report sydd yn edrach fel ei fod dal yn mynd, plaen o ran graffeg ond popeth da chi isio os am adolygiadau clasuron y drive-in (ddim fod na ffasiwn beth i gal yng Nghymru gwaetha'r modd, be sy wedi digwydd i sinema trashy dwch?). Ma pob sinema'n dangos be ma'r prif distributors yn prynu a dim arall, does dim math o sgrin drwy Gymru lle gellir dangos ffilmiau 'B'. Ma na lefydd i shorts fatha POV gan Those People yng Nghaerdydd (sydd yn wych! Cerwch lawr na dydd Mercher ola'r mis, peint, ffag, sgwrs dda a ffilm) ond dim i features. Twll yn y farchnad neu ydi'r gynulleidfa jest ddim yna ddim mwy. Ella fod pobol wedi arfar gormod efo ffilmiau safon chydig is na'r normal.
Modern Tat yn y Tate Modern Fues i i'r Tate Modern ddoe, 50% gwych, 50% pants (ond roedd y gystadleuaeth o top 3 esboniad stiwpid yn hwyl!). Y gorau oedd "Why Not Sneeze Rose Sélavy?" "this cuttlefish bone, marble sugarlumps and thermometer in the cage represent frigidity" Ha Ha! Hoff ddarn o waith y shed wedi chwythu fyny . Mesmereiddiol(!).
Cont twp Baronet attacks Welsh 'xenophobia' "I believe that much of what had happened is prompted by the growth of an increasingly xenophobic nationalism that has been stirred up in Wales. Ma'n amlwg dy fod ti'n caru Lloegr felly aros yna a phaid neud ffys amdano, Y MONG! Pam fod y BBC wedi rhoi gwagle i'r anwybodyn yma roi ei farn diwerth, di sail. Er dwinna'n gneud hefyd...wps.
Bisgits a Jonsi Clywad hon yn cael mensh ar Jonsi bora ma a wedyn ffendio ji ar b3ta. Stori nyts efo bisgit, sex a chamsillafu ynddo fo.
Y Ser Uwchben Anaml iawn dwi'n rhyfeddu ar y ser tra'n byw yng Nghaerdydd, byth yn eu gweld nhw drwy'r haenen oren-binc. Ma edrych ar lunia fel hyn o'r bydysawd yn rhoi popeth mewn perspectif. Gewch i un gwahanol bob dydd fan hyn a breuddwydio am weld ser uwchben...[llenwch ardal gwledig da chi'n hiraethu amdani] Ffeindio hwn ar Concept Cat - llwyth o lincs i bethau diddorol i brocio a phryfocio'r meddwl...
Eric Emosiwn Hwn yn wych , ella nai ofyn iddo fo gyfleu hiraeth? Neu ennill rygbi yn erbyn y Saeson, neu golli yn erbyn y Saeson...cym on Ffinland!
Speccy Dwi newydd wario pnawn cyfa yn islwytho a chwara gemau spectrum . On toedden nhw'n ddyddie da. Hangofyr wedi dod a nostalja trip mlaen, aaah. Ma'n gneud i fi isio digio'r peiriant llwyd allan a thrio dysgu BASIC...wel ella nai jest sticio at chwara'r gemau. Darllen Your Sinclair a trio llwytho'r tapiau na am ddim ar y cyfars. Top Trumps gemau Spectrum fan hyn hefyd. "Head over heels" dwi di bod yn chwara gan fwy - clasur, efo graffics gwych i feddwl pwer y peiriant.
Tin Tin Rhaid deud fy mod i'n masif ffan o Tintin, arfar gwario oriau yn ail-ddarllen y llyfrau ac edrych am fanylion newydd yn y lluniau neu yn rhegfeydd Capten Hadog . Mae gan y wefan yma bopeth! Analysis o bob un llyfr, be oedd tu ol i syniadau Herge, rhestr rhegfeydd YCapten meddw, trailers o'r llyfrau. Hollol gynhwysfawr, hollol wych.
The Hunted gan William Friedkin Ffilm digon di-ddim am Tommy Lee yn rhedag ar ol cyn ddisgybl sgiliau tracio a lladd. Lot o gyllill, lot owaed, lot o mano a mano strutting. Wank film i'r TA's neu paintballers. Dim plot. SAS Survival Handbbok ar seliwloid. O'n i'n disgwyl mwy gan awdur Yr Ecsorsydd(!). Gofynnwch iddo pam nath o ffilm shit... O'n i fod i weld Dark Water ar speshal screening ond nath y basdad print ddim troi fyny i UGC. Contiad. Cerwch i weld Secretary yn lle, neu Ripley's game fod yn dda fyd yn ol adroddiadau fy nghyfeillion ffilmiog. FWFR The Hunted: Tommy tutors terrible Toro
Gwyl Ffilm Cannes Wel, dwi nol, dwn im os ma unrhyw un dal yn gwrando ond na ni dwi nol! Wedi bod digon lwcus i fynd ffwrdd efo gwaith i'r wyl uchod yn cefnogi gwneuthurwyr ffilm Cymreig. Medwl baswn i'n rhoi crynodeb o'r ffilmiau welis i draw yno... Dyma restr linciadwy o'r ffilmiau yn- ac allan o gystadleuaeth yno Gorau: Noi Albinoi (Gwlad Yr Ia), Dagur Kari - Stori hogyn Albino o'r enw Noi sydd yn byw mewn pentra bach ar ochr fjord. Ma'r hogyn yn beniog ond yn tipyn o loner. Ffilm trist ond sy'n llwyddo i godi'r galon. Gwych! Daft Punk and Liji Matsumoto present Interstella 5555 (Frainc/Siapan) - Fffilm animeiddiedig o'r albym dwetha - os da chi'n ffan o Daft Punk ma hon yn werth y byd yn grwn, os da chi'n ffan o anime steil Battle of the Planets hefyd, newch chi bisio yn eich trons. Werth ei weld: Carandiru (Brasil) , Hector Babenco - Dilyn bywydau trigolion un o garchardai gwaethaf Rio. Bach yn rhy hir ond cymeria...