Posts

Showing posts from March, 2003
GO YOJIMBO ! MAe'r samurai sword yn well na'r gwn, wrth gwrs, a-hem, dwi ddim yn cefnogi trais...ond mae hon yn ffilm a hanner. Mae'r cymeriadau'n gryf ac yn gofiadwy, mae gan bob un rywbeth diddorol amdano. Dwi'm yn synnu fod Leone wedi ripio hon off. Mae'n ddoniol ac yn llawn egni, dyw hi ddim yn ddwys iawn ond na fo 'action-adventure' yw hi a joiwch pob munud o'r ddwy awr. Mae Mifune yn ffycin soled ynddo ac yn dominyddu'r sgrin. Mae shots Akira Kurosawa yn lan ac yn arbennig o dda yn gosod y ddau gang yn erbyn eu gilydd. Y ddau ddim yn siwr pwy sydd am gychwyn ac yn mynd yn agosach ac ynagosach at eu gilydd, gyda Sanjuro yn eistedd ar dwr rhwng y ddau gang yn chwerthin am faint mor hawdd mae o di cael y ddau grwp ma o reprobates i ddinistrio'u gilydd. Ond wrth gwrs dyw hi ddim mor hawdd a hynny iddo...mi fydd na fwy o wylio Kurosawa drwy'r haf.
Can mil miliwn o fashi byswcs, dwi di llwyddo gneud un o'r rhain. Faint mor hir neith yr ymdrech yma am rwdlan cyhoeddus barhau sy'n fater arall. Cefais lymad rol gwaith heddiw a farciodd cychwyn y llwybr hyfryd hwnnw tuag at yr haf. Roedd hi wedi bod yn fwlsyn o ddiwrnod ar ol penwythnos o dramwyo llwybrau dirifedi ym mryniau Meirionydd ac roedd y dafarn felen yn fy ngalw fel seiren am 'seize' . Mmmm smooth, dense beer slightly sparkling, with fine, sharp bubbles Warming alcohol. Neu dyna be ma nhw'n deud. Odd gennai ffwc o sychad a nes i lowcio'r lot cyn blasu'r hint o banana. Dim ffilms eto'r wythnos hon, mae'r boicot o nwyddau UDA yn mynd i orfod cynnwys ffilmiau Americanaidd hefyd felly dim Adaptation i fi am y dyfodol agos. Damia. A wel fydd raid i'r llyfrgell fy ngadw i fynd, rations o Kieslowski a von Trier i fi (YEE HA!). Ma'n rhaid i fi neud rhyw fath o safiad yn erbyn y drefn newydd yn y byd o unilateral action yn erbyn gwled...